Iwtopia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
Manion using AWB |
||
Llinell 1:
Lle neu gyflwr delfrydol berffaith yw '''Iwtopia'''<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur y Brifysgo] l</ref>▼
▲Lle neu gyflwr delfrydol berffaith yw '''Iwtopia'''<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur y Brifysgo]l</ref>
==Cefndir==
‘Nunlle’ yw ystyr yr enw [[Groeg]] 'Iwtopia' neu ‘Wtopia’. Tebyg mai [[Thomas More
==Iwtopia mewn llenyddiaeth==
Ym mhob darlun o Iwtopia mae pethau na allant blesio pawb, a phen draw hyn yw y gall paradwys un dyn fod yn uffern i arall. Mewn profiad ymarferol ac mewn llenyddiaeth tuedda Iwtopia bron yn anochel i fynd o chwith, gan roi inni yr hyn a alwyd yn ‘Dystopia’. Er mai camfathiad yw’r gair, gwna’n iawn i gyfleu methiant yr ymgais i greu byd gwell. ‘Dystopaidd’ yw rhai o nofelau enwocaf yr 20g., e.e.''Darkness at Noon'' ([[Arthur Koestler]]), ''Brave New World'' ([[Aldous Huxley]]) ac ''Animal Farm'' a ''Nineteen Eighty-four; ([[George Orwell]]); ''yn gefndir iddynt mae ffactorau fel dadrith ynghylch y chwyldro Comiwnyddol a phryder am rawd gwyddoniaeth.
===Iwtopia mewn llenyddiaeth Cymraeg a Chymreig===
Yn [[Wythnos yng Nghymru Fydd]] [[Islwyn Ffowc Elis]] mae inni ddewis clir rhwng Iwtopia Gymreig a Dystopia Brydeinig, yn dibynnu’n llwyr ar sut y bwriwn ein pleidlais. Yn [[Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys]] mae [[Emrys ap Iwan]] yn 1890-2 yn dychmygu Cymru bosibl yn 2012, ac er bod elfennau Iwtopaidd yn ei Gymru newydd bu’n rhaid aberthu rhai pethau er mwyn ei chael. Math ar Dystopia yw byd storïau [[Caradoc Evans]], yr hunllef wledig sydd mewn cyferbyniad amlwg (a bwriadol mae’n debyg) â’r darlun rhamantaidd a Rhyddfrydol o’r werin Gymraeg oleuedig ac o burdeb bywyd y wlad.
==Llyfryddiaeth==
|