AIDS: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dolenni Allanol: clean up using AWB
→‎top: Manion, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
Llinell 2:
Mae '''Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig''' ({{Iaith-en|Acquired Immune Deficiency Syndrome}}, er fe'i adnabyddir yn amlach gan y talfyriad ''AIDS''), yn ddiffiniad o arwyddion, symptomau, [[haint|heintiau]], a [[canser|chanserau]] sydd yn gysylltiedig â'r diffygiad yn y [[system imiwnedd]] sydd yn deillio o fod yn heintiedig â [[HIV]]. Mae'r cyflwr hwn yn lleihau effeithiolrwydd y [[system imiwnedd]] gan adael unigolyn yn agored i heintiau a thyfiannau manteisgar. Caiff HIV ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol rhwng pilen ludiog neu lif gwaed â hylif corfforol sy'n cynnwys HIV, er enghraifft [[gwaed]], [[semen]], [[hylif gweiniol]], hylif cyn-semen a llaeth y fron. Gellir trosglwyddo'r firws drwy [[rhyw rhefrol|ryw rhefrol]], [[Cyfathrach rywiol|gweiniol]] neu [[rhyw geneuol|eneuol]], trallwysiad gwaed, nodwyddau hypodermig wedi'u heintio, o'r fam i'r baban yn ystod y beichiogrwydd, genedigaeth neu drwy fwydo o'r fron.
 
Bellach mae AIDS yn fyd-eang. Yn 2007, amcangyfrifwyd fod 33.2 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda'r afiechyd a bod 2.1 miliwn wedi eu lladd gan y firws, gan gynnwys 330,000 o blant. Yn [[Affrica]] Îs-Sahara y bu dros dri chwarter o'r marwolaethau hyn, gan amharu ar dyfiant economaidd a dinistrio cyfalaf dynol. Cred y mwyafrif o ymchwilwyr y dechreuodd HIV yn Affrica Îs-Sahara yn ystod yr ugeinfed ganrif20g. Cafodd AIDS ei gydnabod gan Ganolfannau Rheolaeth ac Atal Afiechydon yr [[Unol Daleithiau]] ym 1981 a chanfuwyd ei achos, HIV, gan wyddonwyr Americanaidd a Ffrengig ar ddechrau'r 1980au.
 
Er bod triniaeth am AIDS a HIV yn medru arafu datblygiad yr afiechyd, ar hyn o bryd nid oes iachâd neu frechlyn i'r afiechyd. Mae triniaethau gwrthiant yn lleihau'r marwolaethau o heintiadau HIV, ond mae'r cyffuriau hyn yn ddrud ac nid ydynt ar gael yn hawdd ymhob gwlad. Am fod anawsterau wrth drin heintiadau HIV, atal pobl rhag cael eu heintio yn y lle cyntaf yw'r nod wrth reoli'r epidemig AIDS, gyda sefydliadau iechyd yn hyrwyddo rhyw mwy diogel a chyfnewidfeydd nodwyddau er mwyn ceisio arafu'r firws.