Einion Yrth ap Cunedda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+ca
ehangu (o'r erthygl arall!)
Llinell 1:
Roedd '''Einion ap Cunedda''' ([[420]]? - [[500]]?), a elwir hefydgan amlaf yn '''Einion Yrth''' yn un o frenhinoedd cynharaf [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Fe'i cysylltir hefyd â chantref [[Caereinion]] ym [[Powys|Mhowys]].
 
Roedd Einion yn fab i [[Cunedda Wledig|Gunedda Wledig]], a chredir iddo ddod i Wynedd o'r [[Hen Ogledd]] (yn ne'r [[Yr Alban|Alban]] heddiw) gyda'i dad rywbryd cyn [[450]] i ymladd yn erbyn y [[Gwyddelod]] oedd wedi ymsefydlu yno. Wedi marwolaeth Cunedda, efallai tua [[460]], Einion a etifeddodd y diriogaeth a fyddai'n datblygu i fod yn deyrnas Gwynedd.
 
Yn ôl y traddodiad roedd ganddo saith o frodyr; rhoddodd ei frawd [[Ceredig]] ei enw i [[Teyrnas Ceredigion|Geredigion]], a'i nai [[Meirion]], mab ei frawd Tybion, ei enw i [[Meririonnydd|Feirionnydd]] (mae nifer o ysgolheigion yn credu erbyn heddiw mai ymgais i esbonio'r enwau lleol yw'r traddodiad am hynny). Y brodyr eraill oedd Rhufon (sefydlydd [[Rhufoniog]]), Dunod ([[Dunoding]]), Aflog ([[Afflogion|Aflogion]] yn [[Llŷn]]), [[Dogmael]] ([[Dogfeiling]]), ac [[Edern]] ([[Edeirnion]]).
 
Sefydlodd Einion [[cantref|gantref]] [[Caereinion]] ym Mhowys. Prif ganolfan eglwysig y cantref oedd [[Llanfair Caereinion]]. Gerllaw ceir hen amddiffynfa Caereinion a gysylltir, yn ôl traddodiad, ag Einion Yrth.
Yn ôl un o'r [[Achau]] traddodiadol roedd yr arwr [[Gwgon Gleddyfrudd]] yn fab iddo, ond nid oes sicrwydd am hynny.
 
Roedd Einion yn dad i'r brenin [[Cadwallon Lawhir]] o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] ac yn daid trwyddo i'r brenin [[Cynlas]] (efallai), a grybwyllir gan [[Gildas]] fel teyrn "[[paganiaeth|paganaidd]]" a wrthododd dderbyn [[Cristnogaeth]]. Yn ôl un o'r [[Achau]] traddodiadol roedd yr arwr [[Gwgon Gleddyfrudd]] yn fab iddo, ond nid oes sicrwydd am hynny.
 
==Llyfryddiaeth==
*Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1978). D.g. Cunedda.
*M.P. Charlesworth, ''The Lost Province'' (Darlithoedd Gregynog, 1948, 1949)
*J. E. Lloyd, ''History of Wales to the Edwardian conquest'' (3ydd arg., Llundain, 1939)
 
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 19 ⟶ 21:
|}
 
 
[[Categori:Genedigaethau'r 5ed ganrif]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]