Prydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Bardd]] wedi ei hyfforddi yn drwyadl yng nghelfyddyd [[cerdd dantdafod]] yw '''prydydd''' (benywaidd : '''prydyddes'''). Yn yr Oesoedd Canol dim ond y beirdd gorau oedd â'r hawl i'r teitl, ond yn y cyfnod modern daeth yn air mwy cyffredinol yn golygu 'bardd' neu unrhyw un sy'n mydryddu.
 
Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd a briodolir i [[Taliesin Ben Beirdd|Daliesin]] yn [[Llyfr Taliesin]]. Yno gwahanieithir yn amlwg rhwng prydyddion a beirdd cyffredin (fel y [[Glêr]] yn ddiweddarach). Yng nghyfnod [[Beirdd y Tywysogion]] roedd y prydydd yn [[bardd llys|fardd llys]] breintiedig gyda statws tebyg i'r [[pencerdd]].