Cyflwr gramadegol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion using AWB
Llinell 1:
{{dim-ffynonellau|date=Awst 2013}}
Mewn gramadeg, mae '''cyflwr''' enw neu ragenw yn dynodi ei swyddogaeth ramadegol mewn [[brawddeg]]. Mae'r swyddogaethau hyn yn cynnwys y goddrych, y gwrthrych, y derbynydd neu berchennog. Er bod y rhan fwyaf o [[iaith|ieithoedd]] yn dynodi cyflwr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, fe arferir dweud bod cyflyrau gan iaith ond pan y'u dangosir gan [[morffoleg (iaith)|forffoleg]] yr enw - hynny yw, pan mae enwau yn newid eu ffurf i adlewyrchu cyflwr (er enghraifft [[gogwyddiad]]).
 
== Yr wyth prif gyflwr ==
Llinell 65:
 
=== Saesneg ===
Nid yw cyflyrau yn amlwg iawn yn Saesneg ac felly ar y cyfan mae'n iaith sy'n dibynnu'n fawr ar gystrawen ac arddodiaid i gyfleu ystyr. Serch hyn mae yna rai enghreifftiau o ogwyddiad yn ôl cyflwr yn y rhagenwau personol lle y gwahaniaethir rhwng goddrych a gwrthrych (''he'' a ''him'', ''they'' a ''them'', ''I'' a ''me'', ayyb).
 
Mae'r rhan fwyaf o frawddegau Saesneg yn dilyn y patrwm: '''Goddrych''' + Berf + '''''Gwrthrych''''' + ''Derbynydd''. Fel arfer mae'r derbynnydd wedi'i farcio gyda'r arddodiaid ''to'' neu ''for''.
 
::The '''cat''' gives '''''it''''' ''to them''. (Mae'r '''gath''' yn '''''ei''''' rhoi idd''ynt'')