Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hebraeg"

Lleihawyd o 32 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
→‎top: Manion, replaced: ugeinfed ganrif → 20g (2), ail ganrif → 2g using AWB
B (clean up)
(→‎top: Manion, replaced: ugeinfed ganrif → 20g (2), ail ganrif → 2g using AWB)
[[Delwedd:Frank-ruehl.png|bawd|Yr wyddor Hebraeg]]
Mae '''Hebraeg''' yn [[iaith]] [[Semitaidd]] a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn [[Israel]] a thros y byd. Iaith wreiddiol yr [[ysgrythur]]au [[Iddewiaeth|Iddewig]] ([[Hen Destament]] [[y Beibl]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]]) yw ''Hebraeg Beiblaidd'' (neu ''Glasurol''). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr ail ganrif2g OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr ugeinfed ganrif20g.
 
Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae [[Iddew-Almaeneg]] neu Yiddish-Daitsch a [[Ladino]] (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
 
Un o wyrthiau ieithyddol yr ugeinfed ganrif20g oedd adfywiad Hebraeg, na bu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i [[Israel]], o [[Ewrop]], [[Unol Daleithiau America]], yr hen [[Undeb Sofietaidd]] ac [[Affrica]], er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau [[Wlpan]]. Mae llyfr gan [[Norman Berdichevsky]], 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.<ref>[http://www.frontpagemag.com/2014/jamie-glazov/modern-hebrew-the-past-and-future-of-a-revitalized-language/ www.frontpagemag.com;] adalwyd 26 Awst 2014</ref>
 
Ysgrifennir Hebraeg yn ei [[gwyddor Hebraeg|gwyddor]] ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn [[cytsain|gytsain]]. Dynodir [[llafariad|llafariaid]] gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.
452,433

golygiad