Tôn (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
didolnod
Manion using AWB
Llinell 2:
 
==Ieithoedd tonyddol==
Mae ychydig dros 50% o ieithoedd y byd yn donyddol ond nid yw'r rhan fwyaf o'r [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] yn donyddol, sef rhai o'r ieithoedd a siaredir y fwyaf yn y byd.
 
Yn [[Tsieineeg]], fe wahaniaethir y rhan fwyaf o donau gan eu siâp (tro). Mae'r rhan fwyaf o sillafau yn cario tôn eu hun ac fe wahaniaethir rhwng nifer o eiriau drwy dôn yn unig. Yn ogystal, nid yw tôn yn dueddol o chwarae rôl gramadegol (ac eithrio ieithoedd Jin Shanxi).
 
Yn nifer o'r ieithoedd tonyddol Affricanaidd gan gynnwys y rhan fwyaf o'r [[ieithoedd Bantw]], fe wahaniaethir tonau gan eu lefel berthynol; mae geiriau'n hirach, mae yna lai o [[parau lleiaf|barau lleiaf tonyddol]], ac fe ellir cario tôn gan y gair i gyd yn hytrach na tôn gwahanol ar bob sillaf. Yn aml fe gyflëir gwybodaeth ramadegol, fel y presennol yn erbyn y gorffennol neu "fi" yn erbyn "chi", drwy dôn yn unig.
 
Mae nifer o ieithoedd yn defnyddio tôn mewn ffordd fwy cyfyngedig. Mae gan [[Somali]] er enghraifft ond un tôn i bob gair. Yn [[Japaneg]] mae gan lai na hanner y geiriau ostyngiad yn y traw; mae geiriau yn cyferbynnu yn ôl y sillaf y mae'r gostyngiad yn dilyn. Weithiau fe elwir systemau cyfyngedig o'r math hwn yn [[acen traw]] er nad oes gan y gair hwn ddiffiniad cydlynol.
Llinell 13:
Yn [[Ewrop]] mae elfennau tonyddol gan [[Norwyeg]], [[Swedeg]] a [[Lithwaneg]], ond fel arfer fe elwir y manion tonyddol hyn yn [[acen traw]]. [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] eraill sydd â thonyddiaeth yw ieithoedd India fel [[Punjabi]] a [[Ieithoedd Lahanda|Lahanda]].
 
Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Affrica is-Sahara (heblaw am [[Swahili]], [[Wolof]] a [[Fulani]]) yn donyddol. Mae [[Hausa]] yn donyddol er ei bod yn perthyn i'r [[ieithoedd Semitaidd]] nad sy'n donyddol.
 
Mae yna nifer o ieithoedd tonyddol y Nwyrain Asia, gan gynnwys pob tafodiaith [[Tsieineeg]] (er fe ystyrir [[Shanghainëeg]] i fod ag acen traw yn unig), [[Fietnameg]], [[Thai]], [[Lao]], a [[Burmeg]] a rhai tafodieithoedd [[Tibeteg]]. Ond nid yw [[Japaneg]], [[Mongoleg]] na [[Coreeg|Chorëeg]] yn donyddol.
Llinell 20:
 
==Tôn fel nodwedd gwahaniaethu==
Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd yn defnyddio traw i gyfleu gwybodaeth bara-ieithyddol ond nid ydynt yn ieithoedd tonyddol oherwydd hyn. Mewn iaith donyddol mae tôn yn ffonemig ac felly mae yna [[parau lleiaf|barau lleiaf]] a wahaniaethir rhyngddynt gan dôn.
 
Isod gweler pum tôn syml [[Mandarin]]:
Llinell 46:
 
==Tarddiad tôn==
Fe ddarganfuwyd tarddiad tonau yn Nwyrain a De-ddwyrain Asia gan yr ieithydd [[A.-G. Haudricourt]]: tardd tonau mewn ieithoedd fel [[Fietnameg]] a [[Tsieineeg]] o wrthgyferbyniadau cytseiniol cynharach. Erbyn hyn mae ieithyddion yn cytuno nad oedd dim tonau mewn [[Hen Tsieineeg]]. Ar y llaw arall, mae tarddiad tonau yn Affrica Is-Sahara yn anhysbys o hyd: fe ystyrir bod ieithoedd Bantw yn disgyn o iaith donyddol.
 
Fe elwir tarddiad hanesyddol tonau yn [[tonogenesis]] (gair a grëwyd gan yr ieithydd [[James A. Matisoff]]). Yn aml mae tôn yn nodwedd awyrol yn hytrach na genetig: Hynny yw, gallai iaith ennill tonau drwy ddwyieithrwydd os yw ieithoedd dylanwadol cyfagos yn donyddol neu os yw siaradwyr iaith donyddol yn newid i'r iaith mewn cwestiwn ac yn dod â'u tonau iddi. Mewn achosion eraill, cwyd tôn yn wirfoddol ac yn gyflym: Mae tôn gan dafodiaith Cherokee a siaredir yn Oklahoma ond nid oes tôn gan y dafodiaith a siaredir yng [[Gogledd Carolina|Ngogledd Carolina]], er gwahanodd y ddwy dafodiaith yn [[1838]].