Halogen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 72 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q19605 (translate me)
→‎top: Manion using AWB
Llinell 43:
|}
 
Mae'r '''halogenau''' yn gyfres gemegol o [[elfen gemegol|elfennau]]. Mae'r elfennau hyn yn ffurfio grŵp 17 (hen steil:7, VII neu VIIA) o'r [[tabl cyfnodol]]:
 
[[fflworin]] ('''F'''), [[clorin]] ('''Cl'''), [[bromin]] ('''Br'''), [[ïodin]] ('''I'''), [[astatin]] ('''At''') ac un heb ei ddarganfod hyd yn hyn, [[ununseptiwm]] ('''Uus'''). Ystyr y term halogen yw 'crëwr halwyn', sef rhywbeth sy'n ffurfio [[halwyn]] os caiff ei uno gyda [[metel]].
 
Mae'r elfennau yn cynnwys [[moleciwl|moleciwlau]]au deuatomig yn eu ffurfiau naturiol. Mae ganddynt ddiffyg o un [[electron]] yn eu [[plisgyn falens|plisg falens]], felly mae arnynt angen ennill un electron a ffurfio [[ïon]] negatif gyda gwefr unigol, Hal<sup>-</sup>. Gelwir yr ïonau hyn yn ïonau halid, felly mae halwynau sy'n eu cynnwys yn cael eu galw'n halidau.
 
Elfennau adweithiol iawn yw'r halogenau, felly pan mae gormod o halogen yn bresennol fe allant niweidio neu wenwyno organebau biolegol. Defnyddir clorin ac ïodin fel
diheintyddion ar gyfer steryllu'r cyflenwad dŵr yfed, pyllau nofio, trîn anafiadau, a glanhau llestri ac arwynebau lle mae hylendid yn hanfodol. Maent yn lladd [[bacteria]] a micro-organebau eraill, proses a elwir yn steryllu. Defnyddir eu hadweithedd mewn cannyddion hefyd, ac mae maint sylweddol o glorin yn cael ei ddefnyddio yn y diwidiant papur yn flynyddol i sicrhau fod y papur yn hollol wyn.
 
Pan gyfunir ïon halid gydag ïon hydrogen unigol, H<sup>+</sup> ffurfir asidau hydrohalig, h.y. HF, HCl, HI, sy'n gyfres nodweddiadol o [[asid|asidau]]au hynod o gryf. Dylai asid hydroastatig, HAt, gael ei ystyried yn un o'r asidau hyn ond nid yw'n werth ei gynnwys oherwydd ansefydlogrwydd niwclear yr elfen ymbelydrol astatin.
 
Gall halogenau gwahanol adweithio gyda'i gilydd i ffurfio [[cyfansoddion]] [[rhynghalogen]]. Mae'r cyfansoddion deuatomig (BrF, ICl, ClF ayb) yn debyg iawn i'r halogenau elfennol. Mae cyfansoddion mwy cymhleth yn ffurfio, yn cynnwys llawer o gyfansoddion AB<sub>3</sub>, a rhai uwch (BrF<sub>5</sub>, IF<sub>5</sub>, IF<sub>7</sub>). Mae gan y rhain priodweddau tra gwahanol i'r elfennau, yn cynnwys ymdoddbwyntiau sylweddol uwch.
 
Mae nifer o gyfansoddion synthetig yn cynnwys atomau halogen fel rhan o'u hadeiledd. Mae nifer o [[plastig|blastigion]] yn cynnwys halogenau, gyda PVC (polyfinylclorid) a PTFE (PolyTetraFflworoEthen) yn ddau o'r rhai mwyaf cyffredin. Yn fiolegol, clorin yw'r halogen pwysicaf, gydag ïonau clorid yn cyfrannu at brosesau gweithredu'r [[ymennydd]]. Defnyddir y mymryn lleiaf o ïodin yn y prosesau o greu rhai hormonau, fel [[thyrocsin]]. Er nad yw bromin na fflworin yn hanfodol ar gyfer bywyd biolegol, credir bod mymryn o fflworid yn cryfhau'r dannedd yn erbyn pydredd.
 
Gwelir nifer o dueddiadau wrth symud i lawr y grŵp o elfennau, yn cynnwys cynnydd yn yr ymdoddbwynt a'r berwbwynt, a gostyngiad mewn adweithedd ac electronegatifedd.
 
<table border=0 cellpadding=2 cellspacing=0 width="100%">
Llinell 66:
<td bgcolor="#CCCCFF" align="center">'''Ymdoddbwynt ([[kelvin|K]])'''</td>
<td bgcolor="#CCCCFF" align="center">'''Berwbwynt ([[kelvin|K]])'''</td>
<td bgcolor="#CCCCFF" align="center">'''[[Electronegatifedd]] ([[Graddfa Pauling |Pauling]])'''</td>
</tr>