Hydrocarbon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up using AWB
Manion using AWB
Llinell 5:
Mae gan carbon y gallu i ffurfio [[bond cemegol|bondiau cemegol]] i'w hun i ffurfio cadwyn neu gylch o atomau carbon. Gall yr elfen hon ffurfio cyfansoddion tebyg yn cynnwys unrhyw nifer o atomau o garbon gyda hydrogen yn cwblhau plisgyn falens bob atom carbon trwy ffurfio [[bond cofalent|bondiau cofalent]] iddo. Mae nifer o deuluoedd o gyfansoddion yn cael eu creu, yn dibynnu ar natur y bondio cofalent rhwng yr atomau carbon.
 
===[[alcan|AlcanauAlcan]]au===
Teulu o hydrocarbonau dirlawn, sef hydrocarbonau sydd yn cynnwys bondiau cofalent sengl yn unig yw'r alcanau. Fformiwla cyffredinol y rhain yw C<sub>n</sub>H<sub>2n+2</sub>.
 
===[[alcen|AlcenauAlcen]]au===
Teulu o hydrocarbonau annirlawn, sef hydrocarbonau sydd yn cynnwys bondiau cofalent dwbl yw alcenau. Mae pob alcen yn cynnwys un bond dwbl rhwng pâr o atomau carbon, felly nid oes alcen yn bodoli gydag un carbon yn unig. Mae pob bond arall yn bond cofalent sengl. Fformiwla cyffredinol y rhain yw C<sub>n</sub>H<sub>2n</sub>.
 
===[[alcyn|AlcynauAlcyn]]au===
Teulu o hydrocarbonau annirlawn yw'r rhain hefyd. Maent yn cynnwys bond triphlyg rhwng pâr o atomau carbon, felly nid oes alcyn yn bodoli gydag un carbon yn unig. Yr alcyn lleiaf yw ethyn, a gelwir yn aml yn acetylen, a llosgir y moleciwl hwn wrth weldio. Mae pob bond arall yn bond cofalent sengl. Fformiwla cyffredinol y rhain yw C<sub>n</sub>H<sub>2n-2</sub>.