Carbon deuocsid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up using AWB
→‎top: Manion using AWB
Llinell 3:
Mae '''Carbon deuocsid''' ('''CO<sub>2</sub>''') yn [[Cyfansoddyn|gyfansoddyn]] cemegol sydd wedi ei greu gan ddwy atom [[ocsigen]] ac un atom [[carbon]] wedi'u bondio'n [[bond Cofalent|gofalent]]. Mae'n [[nwy]] ar dymheredd a [[gwasgedd]] safonol ac mae'n bodoli yn [[atmosffêr]] y [[daear|ddaear]] yn y cyflwr hwn. Ar hyn o bryd, yn fyd-eang, crynodiad y carbon deuocsid yn yr atmosffêr yw tua 383 rhan fesul miliwn ar gyfartaledd er bod hyn yn amrywio - yn dibynnu ar leoliad ac [[amser]]. Mae carbon deuocsid yn [[nwy]] [[effaith tŷ gwydr|tŷ gwydr]] pwysig ar y ddaear gan ei fod yn trawsyrru [[golau]] gweledol gan amsugno llawer o is-goch. Yn 2014 disgynodd y ganran o garbon deuocsid a oedd yn cael ei allyru i'r atmosffer 9% yng ngwledydd Prydain - gan y defnyddiwyd 20% yn llai o lo. Dyma'r defnydd lleiaf o lo ers y 1850au.<ref>[http://www.carbonbrief.org/blog/2015/03/analysis-uk-carbon-emissions-fell-9-per-cent-in-2014/?utm_content=buffer3dd84&utm_medium=social&utm_source=twitter.com&utm_campaign=buffer www.carbonbrief.org;] adalwyd 5 Mawrth 2015</ref>
 
Cynhyrchir carbon deuocsid gan bob [[anifail]], [[planhigyn]], [[ffwng]] a micro-organeb yn ystod [[resbiradaeth]] a defnyddir gan blanhigion yn ystod [[ffotosynthesis]]. Mae planhigion yn defnyddio carbon deuocsid yn ogystal â chemegion eraill i greu siwgrau sydd yn cael eu defnyddio fel y deunyddiau crai am dyfiant neu ar gyfer [[resbiradaeth]] eto. Mae carbon deuocsid felly'n gydran sylweddol yn y gylchred garbon. Mae carbon deuocsid anorganig yn gynnyrch [[llosgfynydd]]oedd a phrosesau geothermal eraill fel ffynhonnau naturiol.
 
Nid oes cyflwr hylifol ganddo o dan wasgedd is na 5.1 atm, ond yn solid ar dymereddau'n is na -78&nbsp;°C. Yn ei gyflwr solid, gelwir carbon deuocsid yn "iâ sych" yn gyffredinol.
 
==Carbon deuocsid yn yr atmosffer==