Twll du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Manion using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:BH LMC.png|bawd|200px|Llun gwneud o dwll du o flaen cwmwl mawr Magellan.]]
Yn ôl [[theori perthnasedd cyffredinol|damcaniaeth perthnasedd cyffredinol]] [[Albert Einstein|Einstein]] rhan o'r [[y gofod|gofod]] yw '''twll du''' lle na all unrhyw beth (gan gynnwys golau) ddianc, ac o'r herwydd y cafodd ei enw. Caiff ei greu o ganlyniad i ddadfeiliad [[amser-gofod]] a achosir gan gywasgedd uchel [[màs|fàs]]. Ceir ymyl, neu ffin, i'r twll du, sef yr union bwynt o ble na ddaw dim yn ôl, a elwir yn "gorwel y digwyddiad".
 
O dan reolau neu ddamcaniaeth [[mecaneg cwantwm]], mae iddynt [[tymheredd|dymheredd]] ac mae [[ymbelydredd]] Hawking yn cael ei allyrru ohonynt. Mae'r tymheredd hwn, fodd bynnag, yn is na thymheredd yr ymbelydredd cefndirol. Er ei fod yn anweledig, gall y seryddwr ei adnabod oherwydd y ffordd mae'r gwrthrychau sydd o'i gwmpas yn symud ac yn ymateb iddo. Pan fo cwmwl o [[nwy]] yn cael ei 'sugno' i mewn iddo, gwnaiff hynny mewn siâp sbiral gan allyrru llawer o ymbelydredd a gaiff ei fesur gan delesgopau ar y Ddaear.