Cymdeithaseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: manion cyffredinol a LLByw, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
→‎top: Manion using AWB
 
Llinell 1:
Astudiaeth [[cymdeithas]] a gweithredoedd cymdeithasol [[bod dynol|bodau dynol]] yw '''cymdeithaseg'''. Yn gyffredinol mae'n ymwneud â [[rheol gymdeithasol|rheolau]] a [[proses|phrosesau cymdeithasol]] sy'n cysylltu a gwahanu pobl nid yn unig fel [[unigolyn|unigolion]], ond fel aelodau [[cymuned]]au, [[grŵp (cymdeithaseg)|grwpiau]], a [[sefydliad cymdeithasol|sefydliadau]], ac yn cynnwys astudiaeth o drefniadaeth a datblygiad bywyd cymdeithasol dynol. Mae ymchwil cymdeithasegol yn amrywio o ddadansoddiad cysylltiadau byrion rhwng unigolion dienw ar y stryd i astudiaeth [[globaleiddio|prosesau cymdeithasol byd-eang]]. Mae'r rhan fwyaf o gymdeithaswyr yn gweithio mewn un arbenigedd neu fwy.
 
Mae'r gair cymdeithaseg yn tarddu o'r olddodiad "[[wikt:-eg|-eg]]" sy'n golygu "[[astudiaeth]]", a'r gair "[[cymdeithas]]" (sef, mewn ystyr llac, "pobl"). [[Gwyddorau cymdeithas|Gwyddor cymdeithas]] sy'n cynnwys astudiaeth [[bywyd]]au cymdeithasol pobl, [[grŵp (cymdeithaseg)|grwpiau]], a [[cymdeithas|chymdeithasau]] yw e, a ddiffinir weithiau fel astudiaeth [[rhyngweithiad cymdeithasol|rhyngweithiadau cymdeithasol]]. Fel [[disgyblaeth academaidd]] mae cymdeithaseg yn weddol ifanc – cafodd ei datblygu yn y [[19g]].
 
Oherwydd bod cymdeithaseg yn bwnc mor eang, gall fod yn anodd i'w diffinio, hyd yn oed i gymdeithaswyr proffesiynol. Un ffordd ddefnyddiol i ddisgrifio'r ddisgyblaeth yw fel clwstwr o is-feysydd sy'n astudio agweddau gwahanol ar gymdeithas. Er enghraifft, mae [[haeniad cymdeithasol]] yn astudio anghyfartaledd a'r [[strwythur dosbarth]]; mae [[demograffeg]] yn astudio newidiadau mewn meintiau a mathau [[poblogaeth]]au; mae [[troseddeg]] yn astudio ymddygiadau troseddol; mae [[cymdeithaseg wleidyddol]] yn astudio [[llywodraeth]] a'r [[cyfraith|gyfraith]]; ac mae [[cymdeithaseg hil]] a [[cymdeithaseg rhyw|chymdeithaseg rhyw]] yn astudio adeiladwaith [[hil]]iau a [[rhyw (cenedl)|rhywiau]] yn ogystal ag anghyfartaledd hiliol a rhywiaethol yng nghymdeithas. Mae is-feysydd cymdeithasegol dal i ymddangos – megis [[dadansoddiad rhwydwaith]] – ac mae nifer ohonynt yn groes-ddisgyblaethol eu natur.
 
Mae nifer o gymdeithaswyr yn gwneud ymchwil defnyddiol y tu allan i'r academi. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo [[addysg]]wyr, deddfwyr, gweinyddwyr, datblygwyr, arweinwyr busnes, a phobl sydd â diddordeb yn natrys problemau cymdeithasol a ffurfio [[polisi cyhoeddus]].
 
{{Gwyddorau cymdeithas}}