Julio Argentino Roca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Yn 1877, enwyd Roca yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin h...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:00, 30 Ebrill 2008

Yn 1877, enwyd Roca yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd yn niwedd 1878. Yn Ebrill 1879 dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd Choele Choel ac yna ymlaen at y Río Negro a'r Afon Neuquén. Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas.