Jazz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion using AWB |
|||
Llinell 2:
Math o [[cerddoriaeth|gerddoriaeth]] yw '''jazz''' (neu weithiau yn Gymraeg '''jas''') a ffurfiodd ymysg cymunedau [[Americanwyr Affricanaidd|du]] de [[Unol Daleithiau America]] ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig [[New Orleans]]<ref>{{Cite web|url=https://www.nps.gov/jazz/learn/historyculture/history_early.htm|title=Jazz Origins in New Orleans - New Orleans Jazz National Historical Park (U.S. National Park Service)|website=www.nps.gov|language=en|access-date=2017-03-19}}</ref>. Roedd gwreiddiau jazz yn [[ragtime]] ac yn enwedig [[y felan|felan]]<ref>{{Cite web|url=https://www.sbg.ac.at/ges/people/wagnleitner/usa3/nov26frame.htm|title=A Map of Jazz Styles by Joachim Berendt, "The Jazz Book"|last=|first=|date=|website=www.sbg.ac.at|access-date=2017-03-19}}</ref>, math o gerddoriaeth oedd yn ei thro yn hannu o ddylanwadau brodorol [[Affrica]] a chafodd eu mewnforio i'r Unol Daleithiau drwy'r [[Masnach gaethweision yr Iwerydd|fasnach gaethweision]]. Ers y dechrau hyn mae jazz wedi parhau i blethu a mewnforio elfennau o draddodiadau cerddoriaeth Americanaidd a gwleydd eraill.<ref>Ferris, Jean (1993) ''America's Musical Landscape''. Brown and Benchmark. {{ISBN|0697125165}}. tt. 228, 233</ref>
Nodweddion cyffredin mewn jazz yw nodau [[swing]] a'r [[nodau'r felan|felan]], rhythmau [[poliffonig]] ac yn enwedig [[byrfyfyrio]]. Ystyrir jazz yn ffurf ar gelf cynhenid Americanaidd.<ref>Starr, Larry, a Christopher Waterman. [http://iipdigital.usembassy.gov/st/english/publication/2008/08/20080812212457eaifas0.7410852.html#axzz3QeZKNVtc "Popular Jazz and Swing: America's Original Art Form."] IIP Digital. Gwasg Prifysgol Rhydychen, 26 Gorffennaf 2008.</ref>
== Elfennau ==
Llinell 43 ⟶ 42:
== Yr 1940au a'r 1950au: Bebop ==
{{prif|Bebop}}
[[
Datblygiad sylweddol yn Jazz yn ystod y 1940au oedd [[Bebop]], math newydd o Jazz oedd yn llawer mwy gymhleth, yn harmonig ac yn rythmig, na cherddoriaeth Swing a [[Jazz traddodiadol]]. Yn wahanol i Swing ac ardduliiau Jazz cynharach, ni fwriadwyd [[Bebop]] ar gyfer dawnsio. Roedd hyn yn galluogi i gerddorion i chwarae'n gyflymach o lawer, a throdd ffocws y gerddoriaeth yn fwy byth ar yr unigolyn yn hytrach na'r grŵp. Dylanwad sylweddol Bebop oedd trawsnewid Jazz o fod yn [[cerddoriaeth boblogaidd|gerddoriaeth boblogaidd]] i fod yn arddull gerddorol a gafodd ei ystyried yn [[celf|gelf]]. Er cymerwyd lle bebop 'pur' yr 1940au ar ganol datblygiad jazz gan arddulliau eraill yn gymharol gyflym, strwythur bebop a welir fwyaf aml ym mwyafrif jazz modern o'r 1940au hyd at y presennol.
O'r dechrau ymlaen roedd bebop yn ddadleuol ymysg beirniaid a'r cyhoedd. Er gwaethaf ei bwysigrwydd o ran datblygiad jazz, cymharol fechan oedd cyfran bebop o'r farchnad gerddoriaeth yn y 1940au; yn hytrach, Swing oedd yn parhau i werthu orau.
Llinell 57 ⟶ 56:
=== Jazz Rhydd ===
{{prif|Jazz rhydd}}[[
Math newydd o jazz a ddechreuodd ymddangos ar ddiwedd y 1950au oedd [[jazz rhydd]]. Tra roedd Bebop wedi ehangu posibiliadau jazz drwy ymestyn ystod harmonig y gerddoriaeth, aeth jazz rhydd gam ymhellach drwy ganiatau i gerddorion droi eu cefn ar strwythurau harmoniol yn gyfan gwbl. Wrth chwarae'n rhydd, gall offerynwyr dilyn eu hwynt eu hunain yn gyfan gwbl heb orfod cadw at strwythurau traddodiadol cerddorol megis cordiau, amser, neu allwedd. Byddai rhai cerddorion rhydd yn chwarae eu hofferynnau drwy ddulliau newydd, er enghraifft rhuo drwy sacsoffon neu gor-chwythu bwriadol (er nad oedd y technegau hyn i'w glywed yn jazz rhydd bob tro o bell ffordd).
Er bod jazz rhydd wedi agor nifer fawr o bosibiliadau cerddorol newydd, roedd y dulliau newydd hyn yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid, gyda rhai yn awgrymu nad oedd cerddorion jazz rhydd yn meddu ar y gallu technegol i chwarae'n 'iawn', neu eu bod wedi cefnu ar jazz yn gyfan gwbl.
Cerddorion jazz rhydd pwysig ar ddechrau'r 70au oedd [[Ornette Coleman]] - rhoddodd album Coleman ''Free Jazz'' (1961) yr enw i'r arddull - [[Eric Dolphy]], a [[Cecil Taylor]]. Roedd [[John Coltrane]] yn ymarferwr hynod bwysig hefyd. Ar ôl ennnill enwogrwydd fel rhan o grŵp [[Miles Davis]] yn y 50au, dechreuodd Coltrane chwarae'n rhydd yn 1961, fel sydd i'w glywed ar ei recordiau byw o glwb y ''Village Vanguard'' yn Efrog Newydd. Bu farw Coltrane yn 1967, ond cafodd ddylanwad enfawr ar genhedlaeth newydd o sacsoffonwyr jazz rhydd yn y 1970au.
=== Jazz fusion ===
{{prif|Jazz fusion}}[[
Erbyn yr 1960au hwyr, nid jazz bellach oedd brif gerddoriaeth poblogaidd America a'r gorllewin: roedd wedi colli ei lle i [[gerddoriaeth roc]]. Fel ymateb i'r newid hwn, dechreuodd nifer cynyddol o gerddorion jazz gyflwyno elfennau o gerddoriaeth roc megis curiadau roc ac offerynau electronig i'w cerddoriaeth. ''Fusion'' oedd yr enw Saesneg a roddwyd i'r math yma o gerddoriaeth. Roedd arloeswyr yr arddull hon yn cynnwys [[Miles Davis]], [[Chick Corea]] (drwy ei fand [[Return to Forever]]), [[Herbie Hancock]], [[Wayne Shorter]] (a'i fand [[Weather Report]]) ymysg eraill.
== Datblygiadau ers 1980 ==
[[
== Cerddorion jazz enwog (detholiad) ==
|