Tiwnisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Manion, replaced: wythfed ganrif → 8g using AWB
Llinell 71:
== Hanes ==
{{Prif|Hanes Tiwnisia}}
Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. [[Berberiaid]] oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y [[Ffeniciaid]] yn yr wythfed ganrif8g CC a sefydlu dinas [[Carthago]] (Carthage) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr [[Henfyd]] gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y [[Maghreb]] ([[Moroco]] ac [[Algeria]] heddiw), yn [[Sisili]], [[Sardinia]] a'r [[Ynysoedd Balearig]] a dwyrain [[Sbaen]]. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn [[Utica]], [[Kerkouane]], Hadrametum ([[Sousse]] heddiw) a lleoedd eraill.
 
Yn yr olaf o'r tri [[Rhyfeloedd Pwnig|Rhyfel Pwnig]] syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r [[Rhufeiniaid]]. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]] am mai [[Ifriquiya]] oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. [[Dougga]], [[Bulla Regia]], [[El Djem]] a [[Sbeitla]].