Andes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
→‎top: Manion, replaced: bymthegfed ganrif → 15g using AWB
Llinell 2:
Mae'r '''Andes''' yn fynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol [[De America]] o [[Feneswela]] hyd [[Patagonia]], ac yn rhan nodweddiadol o dirlun gwledydd [[Ariannin]], [[Bolifia]], [[Chile]], [[Colombia]], [[Ecwador]], [[Periw]] a Feneswela. Yn rhan ddeheuol yr Andes, y mynyddoedd hyn yw'r ffin rhwng Ariannin a Chile. Ymhellach i'r gogledd mae'r Andes yn lletach, ac yn cynnwys tir uchel gwastad yr [[Altiplano]], sy'n cael ei rannu rhwng Perú, Bolifia a Chile. Credir fod y gair ''andes'' yn dod o'r gair [[Quechua]] ''anti'', sy'n golygu "crib uchel".
 
Oherwydd bod yr Andes yn uchel ac yn ymestyn am gymaint o bellter o'r de i' gogledd, mae amrywiaeth mawr o dywydd ac o blanhigion, o goedwigoedd glaw llethrau'r rhan ogleddol hyd anialwch o rew ac eira. Ymhlith anifeiliaid nodweddiadiol yr Andes mae'r [[condor]], y [[piwma]], y [[llama]] a'i berthynas yr [[alpaca]]. Yn rhan ogleddol yr Andes y datblygodd ymerodraeth yr [[Inca]] yn y bymthegfed ganrif15g, a gellir gweld llawer o adeiladau o'r cyfnod hwn. Mae'r bobl frodorol wedi dal eu tir yn well yn yr Andes nag yn y rhan fwyaf o gyfandir America; er enghraifft yn yr Andes yn Periw lle mae canran uchel o'r boblogaeth heddiw yn frodorion. Y prif ieithoedd a siaredir yn yr Andes (heblaw Sbaeneg) yw Quechua ac [[Aymara]]. Tyfir cnydau yn uchel ar y llethrau yn rhan ogleddol yr Andes. Y prif gnydau yw tybaco, coffi a chotwm, ac mae tatws, sy'n dod o'r Andes yn wreiddiol, yn arbennig o bwysig. Mae coca hefyd yn bwysig, ac mae llawer o drigolion yr Andes yn arfer cnoi dail coca neu'n rhoi dŵr porth arnynt i wneud math o dê.
 
Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Chile ac Ariannin, yna'r ''Cordillera Blanca'' yn Periw. Y mynydd uchaf yw [[Aconcagua]] yn Ariannin, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr - y mynydd uchaf ar gyfandir America.