Sgwâr Dam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Lleoliad a Disgrifiad: ffynonellau a manion using AWB
→‎Lleoliad a Disgrifiad: Manion, replaced: bymthegfed ganrif → 15g using AWB
Llinell 6:
Lleolir Sgwâr Dam yng nghanol hanesyddol Amsterdam, oddeutu 750 medr i'r de o'r prif ganolfan cludiant, Gorsaf Centraal. Siap hirsgwâr ydyw, ac ymestynna dros ardal o 200 medr o'r gorllewin i'r dwyrain a 100 medr o'r gogledd i'r de. Cysyllta strydoedd Damrak a Rokin, sy'n rhedeg ar hyd llwybr gwreiddiol yr afon Amstel o Orsaf Centraal i Muntplein (Sgwâr y Geiniog) a Munttoren. Mae'r Dam hefyd yn dynodi cyrchfan y strydoedd Nieuwendijk, Kalverstraat a Damstraat. Ychydig bellter tu hwnt i gornel ogledd-ddwyreiniol y Sgwâr, ceir y prif [[ardal golau coch]], de Wallen.
 
Ar ochr orllewinol y sgwâr, ceir y Palas Brenhinol neo-glasurol, a wasanaethodd fel neuadd y ddinas o 1655 tan y cafodd ei newid yn gartref brenhinol ym 1808. Wrth ei ymyl, ceir yr Eglwys Newydd (Gothic Nieuwe Kerk) o'r bymthegfed ganrif15g ac Amgueddfa Cŵyr Madame Tussaud. Codwyd y Gofeb Genedlaethol, sef piler wen a gynlluniwyd gan J.J.P. Oud, i gofio am ddioddefwyr yr [[Ail Rhyfel Byd]] ym 1956 a gwelir hyn ar ochr arall y sgwâr. Hefyd mae'r NH Grand Hotel Krasnapolsky a'r siop crand De Bijenkorf yn edrych allan y plaza. Mae'r atyniadau hyn i gyd wedi gwneud Sgwâr Dam yn gyrchfan i dwristiaid.
 
==Dolenni allanol==