Moderniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
celf gweledol - angen ei ddatblygu
→‎Llenyddiaeth Gymraeg: Manion, replaced: ugeinfed ganrif → 20g (2) using AWB
Llinell 22:
===Llenyddiaeth Gymraeg===
[[Delwedd:Joyce oconnell dublin.jpg|bawd|150px|Cerflun o [[James Joyce]] ar ''North Earl Street'', Dulyn, gan Marjorie FitzGibbon.]]
Arloesodd Moderniaeth o ran ffurf, wrth i awduron arbrofi â ffurfiau a mesurau traddodiadol, neu ymwrthod yn llwyr â hwynt. Eto yma, mae angen pwysleisio nad ffenomen lenyddol yn unig yw Moderniaeth: gellir gweld yr un math o arbrofi ac arloesi ar waith yn y celfyddydau gweledol ([[Picasso]] yw un o'r engreifftiau amlycaf) a cherddoriaeth ([[Schoenberg]], er enghraifft). Yn sgil y diffiniadau hyn, dadleuodd rhai fod Moderniaeth yn hwyr yn cyrraedd Cymru, os cyrhaeddodd o gwbl, a bod un o gysyniadau canolog Moderniaeth, sef ymwrthod yn llwyr â thraddodiad, yn wrthnysig i’r meddylfryd Cymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif20g. Rhydd Moderniaeth bwyslais ar y presennol, y cyfnewidiol a’r newydd, yn hytrach na’r tragwyddol, y sefydlog a’r traddodiadol. O fewn milieu llenyddol y Gymraeg felly, gellid yn hawdd gredu’r haeriad mai hwyr a gwan oedd dyfodiad Moderniaeth.
 
Mae lle i ddadlau, fodd bynnag, fod y bardd a'r llenor [[T. H. Parry-Williams]] wedi datblygu yn fodernydd o’r iawn ryw, a hynny cyn rhai o’r awduron mwyaf nodedig a gysylltir â’r dull yn Saesneg. Cyhoeddodd [[T. S. Eliot]], er enghraifft, ei gerdd ddylanwadol a charreg filltir fodernaidd 'The Waste Land' yn 1922; ond enillodd Parry-Williams goron yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd ynghynt gyda’i bryddest arobryn ‘Y Ddinas’ (1915). Awgryma [[Angharad Price]] fod y ‘modd y canolbwyntir yn realaidd ar fryntni bywyd y ddinas hyd yn oed wrth ddisgrifio bywydau’r breintiedig, yn gwneud hon yn gerdd nodweddiadol Fodernaidd.’
Llinell 34:
Mater arall yw ceisio dosbarthu cynnyrch llenyddol Saunders Lewis ei hun: ‘ar yr olwg gyntaf y mae [[Saunders Lewis]] yn gymysgedd rhyfedd o’r Modernaidd a’r traddodiadol,’ awgryma Dafydd Johnston. Ac eto, y mae’r berthynas hon rhwng ei Foderniaeth a’i bwyslais ar draddodiad yn dangos mor anodd yw diffinio Moderniaeth yn y cyd-destun Cymraeg, a chaiff Johnston drafferth hefyd wrth geisio disgrifio testunau fel ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu’ (1953), cerdd J. Kitchener Davies. Awgryma, fodd bynnag, mai un nodwedd gyffredin ymhlith yr ail don o Fodernwyr Cymraeg nas cafwyd gan y gyntaf yw’r ‘gred ym mhŵer y dychymyg creadigol’: trwyddo, gall ‘grym trosgynnol celfyddyd’ ail-greu byd drylliedig, ac estyn yn ôl i archwilio traddodiad er mwyn cyflawni hynny. Gellir cymharu hyn â Moderniaeth gwledydd fel Iwerddon yn yr un cyfnod hefyd, yn ogystal â phwyslais rhai fel Eliot ar y ‘Traddodiad’ a’r ‘Talent Unigol’.
 
Dadleuodd beirniaid megis Alun Llywelyn-Williams na ddaeth Rhamantiaeth i’w llawn dwf yn yr iaith hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif20g – sef pan oedd gweddill y byd, i bob golwg, eisoes yn ymrafael â Moderniaeth. Cynigiodd R. M. Jones mai dyna pam na ddaeth Moderniaeth yn gyflawn i’r Gymraeg – roedd ei llenorion yn rhy brysur o hyd yn ceisio cyfuno Moderniaeth a Rhamantiaeth Sioraidd. Ymateb i’r un argyfwng y mae’r ddau fudiad, yn ôl John Rowlands: ‘[o]s mynegi ymdeimlad yr unigolyn o ddieithrwch wyneb yn wyneb â’r Chwyldro Diwydiannol a wnâi’r rhamantwyr cynnar, rhaid cydnabod mai parhau i ymdrin â dieithrwch... y mae’r modernwyr hefyd’.
 
Awgryma Rowlands, felly, fod y ‘llinell derfyn rhwng y rhamantaidd a’r modern mewn llenyddiaeth Gymraeg yn annelwig iawn. Gwelwn newid graddol yn agwedd beirdd unigol’. Enghreifftia hyn trwy enwi R. Williams Parry a T. Gwynn Jones, ac mae’r olaf yn enghraifft dda o’r modd y syniodd beirniaid gwahanol amdano mewn ffyrdd gwahanol. Er i [[Alun Llywelyn-Williams]], er enghraifft, ddefnyddio Jones yn enghraifft allweddol wrth ddisgrifio Rhamantiaeth Gymraeg, ystyria [[Jerry Hunter]] ei ddefnydd o ‘frithluniau dychymyg y canrifoedd’ – hynny yw, drylliau neu ddarnau o wahanol rannau o’r traddodiad llenyddol a hanesyddol Cymraeg – a’i ailddyfeisiad ohonynt, yn weithred nodweddiadol Fodernaidd. Eto i gyd, gellir olrhain y lle canolog a roddir i’r dryll a’r drylliedig mewn Moderniaeth yn ôl i’r modd y mawrygid y drylliedig a’r maluriedig gan artistiaid Rhamantaidd a Gothig.