Plwyf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, dolen, cat
Llinell 3:
Unedau gweinyddol lleol yn seiliedig ar diriogaeth cymunedau bychain oedd y plwyfi a sefydlwyd gan yr [[Eglwys Gatholig]] yn yr [[Oesoedd Canol]].
 
===Plwyfi Cymru===
Yng Nghymru nid oedd plwyfi fel y cyfryw yn bod cyn [[Oes y Tywysogion]]. Un o ganlyniadau dyfodiad y [[Normaniaid]] i Gymru oedd lledaenu dylanwad trefn eglwysig y cyfandir ac awdurdod y [[Pab]]. Creuwyd y plwyfi ar sail y [[llan]]nau a fodolai eisoes, gyda'r eglwys leol yn ganolfan iddynt.
 
Yn ddiweddarach, yn y [[Cyfnod Modern]], defnyddiwyd y plwyfi fel unedau gweinyddol llywodraeth leol, mewn trefn gyfochrog i'r honno a fodolai yn [[Lloegr]]. Mae cofnodion plwyf yn ffynhonnell bwysig i haneswyr lleol, gan fod manylion am enedigaethau, priodasau a marwolaethau i'w cael ynddynt, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am fywyd y plwyfolion. Heddiw mae'r plwyfi yn dal i fod yn unedau yn nhrefn llywodraeth leol Lloegr, ond yng Nghymru cymerwyd eu lle gan [[Cyngor Cymuned|gynghorau cymuned]]. Yn y drefn eglwysig mae'r plwyf yn parhau fel uned weinyddol sylfaenol [[Yr Eglwys yng Nghymru]].
 
{{eginyn daearyddiaeth}}
 
[[Categori:Plwyfi| ]]
[[Categori:Cristnogaeth]]
[[Categori:Llywodraeth Leolleol]]
 
[[ast:Parroquia]]