Juan Perón: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Evita
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 6:
Ganed Perón yn [[Lobos]], [[Talaith Buenos Aires]]. Addysgwyd ef yn ninas [[Buenos Aires]], ac aeth i'r Coleg Milwrol yn [[1910]], gan raddio yn [[1916]]. Ei wraig gyntaf oedd Aurelia Tizón, a fu farw o gancr. Ail-briododd a'r actores [[Eva Perón|María Eva Duarte]] ([[1919]] – [[1952]]) ar [[22 Hydref]] [[1945]]. Roedd ''Evita'' fel y gelwid Eva Perón yn cydweithio'n agos a'i gŵr yn wleidyddol, ac yn gefnogol i hawliau i ferched a diwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol câi ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.
 
Etholwyd ef yn Arlywydd am y tro cyntaf ar [[24 Chwefror]] [[1946]]. Ar ddiwedd ei dynor cyntaf, ail-etholwyd ef yn etholiad [[11 Tachwedd]] [[1951]]. Bu farw Eva Perón
ar [[26 Gorffennaf]] [[1952]]. Y tro hwn, ni allodd Perón gwblhau ei dymor, oherwydd diswyddwyd ef yn dilyn ''coup'' milwrol ar [[16 Medi]] [[1955]]. Bu mewn alltudiaeth am 18 mlynedd, nes dychwelyd a chael ei ethol yn Arlywydd am y trydydd tro ar [[23 Medi]] [[1973]].
 
Bu farw yn ystod ei dymor fel Arlywydd ar [[1 Gorffennaf]] [[1974]], ac olynwyd ef gan ei weddw, ei drydedd wraig [[María Estela Martínez de Perón]], oedd wedi ei hethol fel is-arlywydd yn 1973.