Afon Paraná: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Afon yn Ne America
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: 250px|Afon Paranà ger [[Rosario (Ariannin)|Rosario]] Afon yn Ne America yw '''Afon Paraná''' Sbaeneg: ''Río Paraná). ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:18, 5 Mai 2008

Afon Paranà ger Rosario

Afon yn Ne America yw Afon Paraná Sbaeneg: ''Río Paraná). Hi yw'r ail hwyaf o afonydd De America, ar ôl Afon Amazonas.

Ceir tarddiad yr afon yn ne Brasil, lle mae'r Río Grande ac Afon Paranaíba yn cyfarfod. Llifa tua'r de-orllewin, gan wahanu taleithiau São Paulo, Mato Grosso del Sur a Paraná. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paraguay a Brasil. Yn nes ymlaen, ffurfia'r ffîn rhwng yr Ariannin a Paraguay, ac mae Afon Iguazú ac Afon Paraguay yn ymuno a hi. Mae'n cyrraedd y môr yn y Río de la Plata.