Thomas Wiliems: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 11:
Mae'n fwyaf adnabyddus am lunio [[geiriadur]] [[Lladin]]–Cymraeg ([[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], Peniarth 228), a gwplhawyd ym [[1607]], ac sy'n cynnwys rhestr o eiriau Cymraeg yn ôl trefn yr wyddor gydag enghreifftiau ohonynt o waith y beirdd. Teitl y geiriadur oedd ''Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ'' neu ''Trysawr yr iaith Latin ar Gymraec, ne’r Geiriadur cywoethocaf a helæthaf or wir dhiletiaith Vrytanæc, sef heniaith a chyphredin iaith ynys Brydain, ar Latin yn cyfateb pob gair. Wedy dechreu i scriuenu 4. Maij 1604''. Seilir y geiriadur ar waith [[Thomas Thomas]], printiwr cyntaf [[Prifysgol Caergrawnt]], ''Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae'', a dywed yn y rhagymadrodd iddo dreulio 30 o flynyddoedd i gaslgu'r deunydd. Ei nod wrth lunio'r geiriadur oedd 'i wneuthur yr eithaf o'm galhu dros vy ngwlat ag iaith naturiawl vy mam, a'm hanwylgu gereint yn holh Gymru' ac 'y gadw'r iaith einom … yn dragyvyth', ac mae'n beirniadu rhai o'i gydwladwyr am beidio â chynorthwyo ei waith ac am wrthod siarad Cymraeg wrth ei gilydd.<ref name="Rhyddiaith Gymraeg 1954">''Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (1954).</ref>
 
Mae ychwanegiadau ganddo yn ei lawysgrifau yn awgrymu iddo fod wedi troi i [[Catholigiaeth|Gatholigiaeth]]. Mae'n dyfynnu allan o weithiau Pabyddol wrth lunio ei eiriadur, heb ddefnyddio'r [[Beibl]] Protestannaidd Cymraeg. Ni chyhoeddwyd y geiriadur yn ystod ei oes, ond gwelodd olau dydd mewn ffurf dalfyredig fel rhan o eiriadur [[John Davies (Mallwyd)|John Davies]] (''Dictionarium duplex'') ym [[1632]].<ref name="Rhyddiaith Gymraeg 1954"/>
 
Cyhoeddodd y Dr [[John Davies o Fallwyd]] dalfyriad o eiriadur Thomas Wiliems yn ail ran ei eiradur Cymraeg-Lladin yr ''[[Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex]]'' (1632).<ref>Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).</ref>