Daearyddiaeth yr Ariannin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 4:
===Pampa===
: ''Prif erthygl: [[Pampa
Y '''Pampas''' yw'r [[gwastadedd]]au ffrwythlon yn iseldiroedd [[De America]] sy'n cynnwys taleithiau [[Talaith Buenos Aires|Buenos Aires]], [[La Pampa]], [[Talaith Santa Fe|Santa Fe]], a [[Talaith Córdoba|Córdoba]] yn yr [[Ariannin]], ynghyd a rhannau o [[Uruguay]] a phwynt deheuol [[Brasil]]. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y [[pridd]] yn addas ar gyfer [[amaethyddiaeth]].
Llinell 11:
Mae'r [[Pampas Gwlyb]] yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r [[Pampas Sych]], lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd [[espinal]] yr Ariannin.
===Gran Chaco==
Saif y Gran Chaco rhwng afonydd [[Río Paraguay|Paraguay]] a [[Río Paraná|Paraná]] a'r [[Altiplano]] yn yr [[Andes]]. Rhennir yr ardal rhwng [[yr Ariannin]], [[Bolivia]], [[Brasil]] a [[Paraguay]]. Gwastadtir eang yw'r ardal. Y gwahaniaeth rhwng y Gran Chaco a'r [[Pampa]] yw fod nifer sylweddol o goed yn y Gran Chaco. Fe'i rhennir yn dri rhan:
* [[Chaco Boreal]], yn y gogledd.
* [[Chaco Central]], rhwng Afon Pilcomayo a hen gwrs Afon Bermejo.
* [[Chaco Austral]], yn y de, o Afon Bermejo hyd at gymmer Afon Salado ag Afon Paraná.
===Mynyddoedd===
Pwynt uchaf yr Ariannin yw [[Cerro Aconcagua]] (6,960m), y mynydd uchaf ar gyfandir [[America]] a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i [[Asia]].
===Afomydd===
Mae'r prif afonydd yn cynnwys y [[Afon Paraguay|Paraguay]], [[Bermejo]], [[Afon Colorado (Ariannin)|Colorado]], [[Afon Uruguay|Uruguay]] a'r hwyaf, y [[Afon Paraná|Paraná]]. Mae'r ddwy olaf yn ymuno â'i gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y [[Río de la Plata]] (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn dymherus gan fwyaf, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y de pell.
|