Panel solar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Oze (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Oze (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
== Hanes ==
Mae hanes paneli solar yn mynd yn ol i 1839, pan ddarganfyddodd y ffisegydd Ffrangeg, Antoine-Cesar Becquerel yr [[effaith ffotovoltaig]] yn ystod arbrawf electrolysis.
 
Yna, yn 1883, adeiladwyd y gell solar cyntaf gan Charles Fritts. Ffurfiwyd cell solar Fritts drwy orchuddio stribedau o [[seleniwm]] gyda haen tenau o aur.
 
Rhwng 1883 a 1941, arbrofodd sawl gwyddonydd, dyfeiswr a chwmni gyda egni solar. Yn ystod y blynyddoedd hyn, cofrestrwyd y fraint ar gyfer y gwresogydd dwr cyntaf wedi ei bweru gan egni solar gan Clarence Kemp, dyfeisiwr o Baltimore. Yn ychwanegol, cyhoeddodd [[Albert Einstein]] ei thesis am yr effaith ffotoelectrig, a mi dderbyniodd y [[wobr Nobel|Gwobr Nobel]] am ei ymchwiliadau. Dyfeisiodd William Bailey, gweithiwr i'r Cwmni Dur Carnegie y casglwr solar cyntaf, wedi ei wneud o droadau copr y tu fewn i focs wedi ei ynysu.
 
Y defnydd cyntaf mawr ar gyfer egni trydanol solar oedd mewn [[lloerennau]] gofod. Mi gefnogodd llywodraedd yr Unol Dalaethiau gynhyrchiad cell solar gyda chymwyster o 20% erbyn 1980, ac erbyn 2000 mi gynhyrchwyd celloedd solar gyda chymwyster o 24%.
 
==Sut maent yn gweithio==
Sail paneli solar yw [[silicon]] pur. Pan caiff amhurdebau eu tynnu i ffwrdd, mae silicon yn actio fel safle niwtral ar gyfer anfon electronau. Yn naturiol, mae silicon yn cynnwys pedwar electron, ond mae ganddo le am wyth. Felly mae gan silicon le ar gyfer pedwar electron arall. Os daw atom silicon mewn cyswllt ag atom silicon arall, mae'r ddau yn derbyn pedwar electron yr un arall. Mae wyth electron yn bodloni anghenion yr atomau ac yn creu bond cryf heb wefr negyddol na phositif.
 
Mae angen gwefr bositif er mwyn i drydan rhedeg. Mae cyfuno silicon gydag elfen fel [[boron]], sydd a ond tri electron i gynnig yn creu gwefr bositif. Mae gan blat silicon a boron dal un lle ar agor ar gyfer electron arall. Felly, mae gan y plat wefr bositif. Caiff y ddwy blat eu glynnu at eu gilydd i greu paneli solar, gyda gwifrau dargludyddol yn rhedeg drwyddynt.