RSPB Ynys-hir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lluniau
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Ar gyfer y dref yn Rhondda Cynon Taf, gweler [[Ynyshir]].
[[Delwedd:Ynyshir09LB.jpg|bawd|260px|Llwybr trwy'r warchodfa]]
Gwarchodfa natur ydy '''RSPB Ynys-hir''', sydd wedi ei leoli ar lan yr [[Afon Dyfi]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], rhwng [[Aberystwyth]] a [[Machynlleth]]. Mae'n 550 o hectarau o faint ac yn cynnwys amrywiaeth o gynefinnau sy'n ymestyn yn mewndirol ac yn cynnwys gwastatir mwd (Saesneg:''Mudflat'') a chorsydd halen (Saesneg:''Saltmarsh''), tir fferm a phylliau, coedwig dderw a phrysgwydd ar ochr bryniau. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys canolfan ymwelwyr bach a saith cuddfan ar gyfer gwylio [[adar]].
 
Llinell 9:
Mae'r adar sy'n gwario'r gaeaf yno yn gynnwys [[hwyaid]] megis [[Hwyaden Fraith|Hwyaid Fraith]], [[Chwiwell|Chwiwiaid]] a [[Corhwyaden|Corhwyaid]] ac adar rhyddio megis [[Pioden y Môr]] a [[Pibydd y Dorlan|Phibydd y Dorlan]]. Mae nifer bychain o'r [[Gŵydd Dalcen-wen|Ŵydd Dalcen-wen]] ac yn fwy diweddar, [[Gŵydd Wyran]] i'w gweld hefyd.
 
Mae anifeiliaid gwyllt eraill yr ardal yn cynnwys [[ystlum]]od, [[Dyfrgi]], [[Ffwlbart]] a'r [[Pathew]]. Ymysg y pryfaid mae [[Gwas y neidr|gweision y neidr]], [[mursen]]nod a [[Glöyn byw|glöynnod byw]] ac eraill prin megis y [[gwiddonyn (chwilen)|gwiddonyn]] ''[[Procas granulicollis]]''. Ymysg y blodau gwyllt mae [[Clychau'r Gog]], [[Chwys yr Haul]] a [[Llafn y Bladur]]. Defnyddir ceffylau i gadw'r glaswellt yn fyr.
 
Sefydlwyd RSPB Ynys-hir ar ystâd Hugh Maplin, a wahodd [[William Moreton Condry|Bill Condry]] i fyw ar y stâd, Condry oedd warden gyntaf y warchodfa.