Amwythig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
rhifau a manion
Llinell 36:
Ar 28 Mehefin 1283 galwodd [[Edward I o Loegr]] ei [[senedd]] i gyfarfod yn Amwythig i farnu [[Dafydd ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] a brawd [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]]. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru]].
 
Mae'r dref yn enwog am ei [[ysgol ramadeg|hysgol ramadeg]] i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd [[Charles Darwin]] a'r bardd Syr [[Philip Sydney]] yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid [[Gorsaf reilffordd Amwythig|gwasanaeth trên uniongyrchol]] o dde-ddwyrain,, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.
 
==Cysylltiadau Cymreig==
===Y wasg Gymraeg yn Amwythig===
Symudodd [[Thomas Jones (almanaciwr)|Thomas Jones]] (1648 - 1713) yr almanaciwr ei wasg o [[Llundain|Lundain]] i Amwythig yn [[1695]] i gyhoeddi llyfrau [[Cymraeg]]. Am tua ddeng70 mlyneddo a thrigainflynyddoedd ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan [[1718]] y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).
 
Ar ddiwedd y [[18fed ganrif|ddeunawfed ganrif]] roedd gan [[Stafford Prys]] wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y [[Blodeugerddi Cymraeg|flodeugerdd Gymraeg]] ''[[Gorchestion Beirdd Cymru]]'' ([[1773]]).
 
==Enwogion==