Francisco Pizarro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: bawd|200px|Francisco Pizarro Fforiwr a conquistador Sbaenig oedd '''Francisco Pizarro González''' (16 Mawrth 1476 - 26 Gorffennaf [... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:54, 8 Mai 2008
Fforiwr a conquistador Sbaenig oedd Francisco Pizarro González (16 Mawrth 1476 - 26 Gorffennaf 1541). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y gŵr oedd yn gyfrifol am ddinistrio Ymerodraeth yr Inca.
Ganed Francisco Pizarro yn Trujillo (Extremadura). Roedd yn blentyn gordderch i hidalgo o'r enw Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar a merch o'r wlad,Francisca González y Mateos. Magwyd Pizarro yn anllythrennog a bu'n geidwad moch am gyfnod. Aeth i Dde America am y tro cyntaf yn 1502.