Ac Eraill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:01, 25 Awst 2017

Grŵp poblogaidd, Cymraeg a gweriniaethol o'r 1970au oedd Ac Eraill a ffurfiwyd yn 1972. Roedd aelodau gwreiddiol y grŵp, yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor (neu'n aros yno): Tecwyn Ifan, Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards ("Phil Bach"). Rhyddhawyd tair record fer ar label Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, ailffurfiwyd y grŵp yn un pwrpas er mwyn rhyddhau record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.

Ac Eraill

Cysylltir y grŵp gyda Mudiad Adfer a'i athroniaeth o ailfeddiannu a datblygu'r Fro Gymraeg yn hytrach na'r ardaloedd a Seisnigiwyd. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd y chwyldro cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg yn dod i'w lawn dwf yng Nghymru. O ran cerddoriaeth, dyma flynyddoedd y datblygu mawr ym maes recordiau Cymraeg, a hwnnw’n adlewyrdchu’r bwrlwm a'r creadigrwydd rhyfeddol yn y byd canu gwerin, pop a roc Cymraeg. Yn y byd recordio, hwnnw oedd degawd aur Stiwdio Gwernafalau, Cwmni Recordiau Sain. Yn ennill eu lle yn rheng flaen y chwyldro cerddorol hwnnw mae Ac Eraill, y lleisiau llawn harmoni, wedi eu priodi â chaneuon gafaelgar a heriol Tecwyn Ifan, y peiriant a yrrai'r drol, ond ymunodd Phil Edwards, Iestyn Garlick a Alun 'Sbardyn' Huws a ddaeth i'r amlwg drwy Ac Eraill, ynghyd â Cleif Harpwood, Huw Bala a John Morgan.[1]

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur', 'Tua'r Gorllewin' a 'Chwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o Fudiad Adfer ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: 'Tua'r Gorllewin', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.[2] Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, Addewid {SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', 'Marwnad Yr Ehedydd' a 'Faban Bach Clyd'.

Cyfeiriadau

  1. www.sainwales.com; adalwyd 25 Awst 2017.
  2. www.discogs.com; adalwyd 25 Awst 2017.