Teyrnas Prydain Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yr oedd '''Teyrnas Prydain Fawr''' (a elwir weithiau, ond yn anghywir, yn ''Deyrnas Unedig Prydain Fawr''), yn [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] yng [[Gorllewin Ewrop|Ngorllewin Ewrop]], a fodolai o [[1707]] hyd [[1800]]. Cafodd ei chreu trwy uniad [[Teyrnas yr Alban]] a [[Teyrnas Lloegr|Theyrnas]] [[Lloegr]], dan [[Deddfau Uno 1707|Ddeddfa Uno 1707]], i greu teyrnas unigol yn cynnwys [[Prydain Fawr]] i gyd ([[Lloegr]], [[Cymru]] a'r [[Alban]] heddiw). Addaswyd [[senedd Lloegr]] i greu senedd newydd, [[Senedd Prydain Fawr]] yn [[San Steffan]] yn, [[Llundain]], gyda llywodraeth newydd seiliedig ar hen lywodraeth Lloegr, i'w rheoli. Paratowyd y tir ar gyfer yr uniad gan y ffaith fod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr (a oedd yn cynnwys [[Cymru]] at bwrpasau deddfwriaethol) wedi rhannu'r un teyrn ers i [[Iago VI, Brenin yr Alban]], ddod yn frenin Lloegr yn [[1603]].
 
Cymerodd [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon]] le Teyrnas Prydain Fawr yn [[1801]] pan lyncwyd [[Teyrnas Iwerddon]] gan [[Deddf Uno 1800|Ddeddf Uno 1800]] ar ôl methiant y [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|Gwrthryfel Gwyddelig]] yn [[1798]].
Llinell 16:
*[[Robert Walpole]] (1721–1742)
*[[William Pitt yr Ieuengaf]] (1783-1810)
 
==Gweler hefyd==
*[[Senedd Prydain Fawr]]
 
 
[[Categori:Hanes Prydain Fawr]]