Canu Darogan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Llinell 2:
 
===Gwreiddiau===
[[Image:Welsh Dragon Memorial Mametz Wood.jpg|150px|bawd|[[Y Ddraig Goch]] (Cofeb Mametz)]]
Mae gwreiddiau'r farddoniaeth arbennig hon yn hen iawn. Gellir olrhain y traddodiad i ddyddiau'r Celtiaid. Cyfeiria'r awdur clasurol [[Diodorus Siculus]] at y ''[[vates]]'', dosbarth o feirdd a doethion Celtaidd a fedrai ragweld y dyfodol. Cyfeiria [[Gerallt Gymro]], ar ddiwedd y 12fed ganrif, at yr [[Awenydd]]ion a ragwelai'r dyfodol mewn perlewyg ac a lefarai ddaroganau wedyn.
 
Math o broffwyd neu ddaroganwr oedd y mynach [[Gildas]] (5ed ganrif), ond proffwyd gwae yn lle gobaith, yn null proffwydi'r [[Hen Destament]], sy'n llefaru yn ei lyfr enwog ''[[De Excidio Britanniae]]'' (''Coll Prydain''), ac nid yw ei waith yn rhan o'r traddodiad Cymreig fel y cyfryw, er iddo ddylanwadu arno. Sonia [[Nennius]] am [[Y Ddraig Goch]] a'r Ddraig Wen yn ymladd dan [[Dinas Emrys]], caer [[Gwrtheyrn]] yn [[Eryri]], ac mae'n cyflwyno'r dewin [[Myrddin]] hefyd; parhaodd hanes y dreigiau yn elfen ganolog yn y Canu Darogan hyd y 15fed ganrif. Ceisio rhoi hyder i'r Cymry oedd Nennius, a dyna hefyd a wnai'r brudwyr hwythau.
 
===Oesoedd Canol===