Macsen Wledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
==Traddodiadau Cymreig==
[[Delwedd:Llanbeblig Hours (f. 3r.) A king, possibly Magnus Maximus, holding a sceptre.jpg|120px|bawd|chwith|Darlun posibl o Facsen Wledig yn [[Llyfr Oriau Llanbeblig]]]]
Yn ôl y chwedl Gymreig ganoloesol ''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]'', priododd Macsen [[Elen Luyddog]], merch [[Eudaf Hen|Eudaf]] o ardal [[Segontium]], y gaer Rufeinig ger [[Caernarfon]], ac mae peth tystiolaeth bod y stori yn wir. Yn ôl y traddodiad Cymreig, Macsen oedd yn gyfrifol am ymadawiad lluoedd Rhufain o Gymru 20 mlynedd cyn gweddill Prydain. Gadawodd Macsen diroedd Cymru yn nwylo’r brodorionbobl frodorol, gan ddechrau trefn o hunan-lywodraeth a barodd tua naw cant o flynyddoedd. Am y rheswm hwnnw, mae Macsen wedi ei ystyried yn ’Dad y Genedl Gymreig’.<ref>Y Gwyddoniadur Cymreig</ref> Yn ôl Gwynfor Evans, y Cymry yn unig o holl bobloedd yr Ymerodraeth wrthsafodd y llwythau Germanaidd yn llwyddiannus yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, a bu’r drefn a gyflwynodd Macsen yn un o'r rhesymau pennaf dros hynny.<ref>Gwynfor Evans, ''Seiri Cenedl y Cymry'' (Gomer, 1986)</ref>
 
Yn yr achau Cymreig nodir [[Sant]] [[Peblig]] ac [[Owain fab Macsen Wledig]] yn feibion Macsen ac Elen.