Canu Darogan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Oesoedd Canol: dolenni |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Corff o gerddi [[Cymraeg]] traddodiadol sy'n [[darogan]] dyfodol y [[Brythoniaid]]/[[Cymry]] ac yn eu hatgoffa o'u gorffennol yw'r '''Canu Darogan''', a elwir hefyd yn '''Ganu Brud''' neu'r '''Brudiau'''. Gorwedd gwreiddiau'r canu arbennig hwn yn ôl ym myd y [[Celtiaid]]. Blodeuodd y traddodiad yng [[Cymru'r Oesoedd Canol|Nghymru yn yr Oesoedd Canol]], yn enwedig gyda dyfodiad y [[Normaniaid]] ac yn y cyfnod ar ôl goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] hyd at gyfnod [[Owain Glyndŵr]] ac ymgyrch [[Harri Tudur]]. Y ffigwr canolog yn y traddodiad oedd y [[Mab Darogan]], a fyddai'n dychwelyd i waredu'r Cymry a gyrru'r [[Saeson]] allan o [[Ynys Brydain]]. Yr enw arferol ar y beirdd darogan yw 'daroganwyr' neu 'frudwyr'. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi darogan yn waith beirdd di-enw a ddadogir ar [[Myrddin]] a [[Taliesin]] ac eraill, ond ceir nifer o gerddi gan feirdd wrth eu crefft hefyd, o gyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]].
==Hanes y traddodiad==
Llinell 13:
Yn fuan yn hanes y traddodiad, daeth y [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]] a [[Myrddin|Myrddin Fardd]] yn ffigurau canolog. Tadogwyd nifer fawr o gerddi darogan arnynt yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, e.e. yn ''[[Llyfr Taliesin]]'' ac yn yr 'Oianau' a'r 'Afallenau' yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' a briodolir i Fyrddin. Ceir hefyd y gerdd '[[Ymddiddan Myrddin a Thaliesin]]'. Cyfeiria [[Sieffre o Fynwy]] at broffwydoliaethau Myrddin yn yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' a cheir y ''[[Vita Merlini]]'' ganddo hefyd.
Ond er i Fyrddin a Thaliesin, fel arwr ''[[Hanes Taliesin]]'', ddod i ddominyddu'r Canu Darogan, tadogwyd cerddi darogan ar feirdd eraill hefyd, e.e. y [[Bardd Cwsg]] (a ysbrodolodd y llyfr diweddarach ''[[Gweledigaethau'r Bardd
Daw'r traddodiad i'w benllanw fel petai yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Dyma'r cyfnod lle ceir y pwyslais pennaf ar y [[Mab Darogan]]. Cyfeirir ato weithiau fel ail [[Arthur]], neu fel [[Cynan]] a [[Cadwaladr|Chadwaladr]] yn dychwelyd i arwain y Cymry. Ond yr enw amlycaf yw 'Owain', a gysylltir ag [[Owain Lawgoch]] yn ail hanner y 14eg ganrif ac [[Owain Glyndŵr]] ar ddechrau'r ganrif olynol. Yn olaf ceir y canu darogan a gysylltir â [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] ag ymgyrch [[Harri Tudur]]. Mae nifer o'r cerddi o'r cyfnod hwn, o tua 1425-1485, yn [[cywydd|gywyddau]] coeth gan feirdd proffesiynol fel [[Dafydd Llwyd o Fathafarn|Dafydd Llwyd]] o [[Mathafarn|Fathafarn]], ond ceir yn ogystal doreth o ganu llai caboledig, fformiwlëig ar fesurau'r [[canu rhydd]].
Ni
==Brudwyr==
===Brudwyr chwedlonol===
*[[Bardd Cwsg|Y Bardd Cwsg]]
*[[Y Bergam]] (yn fardd hanesyddol, efallai)
*[[Myrddin|Myrddin Fardd]]
|