Sieffre o Fynwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Adding: ja:ジェフリー・オブ・モンマス |
→Gweithiau: dolen |
||
Llinell 13:
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd.
Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (Hanes Brenhinoedd Prydain) a ymddangosodd yn nechrau [[1136]]. Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad [[Brutus o Gaerdroea]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth [[Cadwaladr]] yn y [[7fed ganrif]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynhonnellau Sieffre oedd gweithiau [[Gildas]] (''De Excidio Britanniae''), [[Beda]] a [[Nennius]], ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.
Rhwng tua [[1149]] a [[1151]] ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin o 1538 o linellau, y ''[[Vita Merlini]]'' (
Bu dylanwad gweithiau Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Cafodd yr Historia ei gyfieithu i lawer o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg dan y teitl ''Brut y Brenhinedd''. Ymddengys mai fel dilyniant i'r ''Historia Regum Britanniae'' y bwriadwyd [[Brut y Tywysogion]]. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu y ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y [[Canol Oesoedd]] gyda phrifddinas yng [[Caerllion|Nghaerllion-ar-Wysg]] ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o [[sifalri]]. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol [[Theophilus Evans]] ''Drych y Prif Oesoedd''.
|