Vita Merlini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Llyfryddiaeth: dolen allanol; rhyngwici
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cerdd Ladin o 1529 llinell a gyhoeddwyd gan Sieffre tua deng mlynedd ar ôl iddo orffen ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' enwog yw'r ''Vita''. Dim ond un copi o'r testun sydd wedi goroesi ac ni ddaeth yn adnabyddus fel ei gampwaith ffug hanes, ond mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer datblygiad chwedl Myrddin.
 
YmddnegysYmddengys fod Sieffre wedi tynnu ar ffynonellau Cymreig nad oedd yn gwybod amdanynt pan ysgrifennodd yr ''Historia'' pan luniodd y ''Vita''. Yn y gerdd ceir hanes [[Myrddin Wyllt]], agwedd ar gymeriad Myrddin sy'n seiliedig ar y traddodiadau sy'n ei gysylltu â'r [[Hen Ogledd]] yn hytrach na Chymru a chwedl [[Myrddin Emrys]], dewin [[Gwrtheyrn]]. Mae'n bosibl fod y gerdd '[[Ymddiddan Myrddin a Thaliesin]]' yn un o ffynonellau'r awdur. Digwydd rhai o'r cyfeiriadau yn y ''Vita'' yn 'Yr Afallennau' a'r 'Oianau' yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' hefyd.
 
Mae'r gerdd yn adrodd hanes Guennolus ([[Gwenddolau]]) brein [[yr Alban]], Peredurus ([[Peredur fab Efrog]]) brenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], Rodarchus ([[Rhydderch Hael]]) brenin [[Cumbria]], a Merlinus (Myrddin) brenin [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]] yn ymladd brwydr fawr. Mae MyrdinMyrddin yn colli ei bwyll wedyn ac yn mynd i fyw fel [[dyn gwyllt]] yng [[Coed Celyddon|Nghoed Celyddon]]. Ei wraig yw Guendolena (ffurf ar [[Gwenddolau]] efallai). Ar ôl sawl antur daw Telgesinus ([[Taliesin]]) i weld Myrddin yn y goedwig lle mae wedi tyfu'n gyfaill i'r anifeiliaid gwyllt i gyd. Yn yr ymgom rhwng y ddau fardd cawn gyfres o [[darogan|ddaroganau]] a thraethu ar hanes y byd, y [[Brythoniaid]], ffenomenau Natur, ac ati. Disgrifir hefyd yr ''Insula pomorum'' ([[Ynys Afallon]]) y dugpwyd y brenin [[Arthur]] iddi ar ôl [[Brwydr Camlan]].
 
Ar ddiwedd yr ymddiddan rhyfeddol daw Myrddin yn ôl i'w lawn bwyll ac mae ef a Thaliesin, ynghyd â Ganieda, ail wraig Myrddin, a Maeldinus yn byw yn dedwydd yn y goedwig. Yn olaf ceir cyfres arall o ddaroganau a leferir gan Ganieda.