Cicero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:M-T-Cicero.jpg|bawd|200px|[[Marcus Tullius Cicero]].]]
 
Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd '''Marcus Tullius Cicero''' ([[3 Ionawr]] [[106 CC]][[7 Rhagfyr]] [[43 CC]]).
 
Ganed Cicero yn [[Arpinum]] (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o [[Rhufain|Rufain]]. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, [[Gaius Marius]],ond heb gysylltiad a'r teuluoedd [[Senedd Rhufain|seneddol]]. Bu'n astudio'r gyfraith dan [[Quintus Mucius Scaevola Augur|Quintus Mucius Scaevola]], a dywed [[Plutarch]] ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn [[Sextus Roscius]] ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd [[Lucius Cornelius Chrysogonus|Chrysogonus]], ffefryn [[Lucius Cornelius Sulla]] oedd yn feistr Rhufain ar y pryd.