Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen i Comisiynydd y Gymraeg
Llinell 1:
{{diweddaru}}
[[Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] yw '''Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011''' ([[Saesneg]]: ''Welsh Language (Wales) Measure 2011'') sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r [[Cymraeg|Gymraeg]] wrth ddarparu [[gwasanaethau cyhoeddus]] yng [[Cymru|Nghymru]]. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010<ref name="Cynulliad">{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-legislation-third-assembly/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm |teitl=Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 |cyhoeddwr=[[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=6 Awst |blwyddyncyrchiad=2011 }}</ref> a [[dod i rym|daeth i rym]] ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|y Frenhines]].<ref>{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid/cr-ld8414-e.pdf?langoption=3&ttl=CR-LD8414%20-%20Cymeradwyaeth%20Frenhinol%20i%20Fesur%20Cynulliad%3A%20Mesur%20y%20Gymraeg%20%28Cymru%29%202011 |teitl=Cymeradwyaeth Frenhinol i Fesur Cynulliad—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2011 |dyddiad=[[9 Chwefror]], [[2011]] |cyhoeddwr=[[Claire Clancy]], [[Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad]], [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=6 Awst |blwyddyncyrchiad=2011 }}</ref> Mae'r mesur yn creu swydd [[Comisiynydd y Gymraeg]], a benodir gan y [[Prif Weinidog Cymru|Prif Weinidog]], ac yn diddymu [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]].
 
Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gosbi [[sector cyhoeddus|cyrff cyhoeddus]] a rhai [[sector preifat|cwmnïau preifat]], megis cwmnïau nwy, trydan, a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.<ref name=BBC>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8540000/newsid_8548200/8548281.stm |teitl=Y llywodraeth yn cyhoeddi mesur iaith newydd |dyddiad=4 Mawrth 2010 |dyddiadcyrchiad=5 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[BBC]] }}</ref> Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd,<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/15184186 |teitl=Newyddion - Meri Huws yw'r Comisiynydd Iaith newydd |dyddiad=5 Hydref 2011 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=21 Rhagfyr 2011 |iaith=cy }}</ref> a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar ym mis Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua ym mis Ebrill 2012 yn swyddogol.<ref>{{dyf gwe |url=http://wales.gov.uk/newsroom/welshlanguage/2011/111201commissioner/?skip=1&lang=cy |teitl=[[Comisiynydd y Gymraeg]] yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror |dyddiad=1 Rhagfyr 2011 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=21 Rhagfyr 2011 }}</ref>
 
Cyflwynwyd y mesur gan [[Alun Ffred Jones]] [[Aelod Cynulliad|AC]], y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.<ref name="Cynulliad"/>