Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
Ehangu - Brwydr Cefn Pilckem
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Un o frwydrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a ddigwyddodd rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd [[1917]] oedd '''Brwydr Passchendaele''' (hefyd '''Trydedd Brwydr Ypres'''). Ymladdwyd y frwydr ger dinas [[Ypres]] yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]], rhwng byddin [[yr Almaen]] dan [[Max von Gallwitz]] ac [[Erich Ludendorff]], a lluoedd y cynghreiriaid, yn cynnwys milwyr o wledydd Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan [[Douglas Haig]] a [[Hubert Gough]].
 
Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef [[David Lloyd George]], yn erbyn y frwydr am nifer o resymau <ref>{{dyf llyfr|teitl=The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability|olaf=Terraine|cyntaf=John|blwyddyn=1977|cyhoeddwr=Leo Cooper|lleoliad=Llundain|isbn=0-436-51732-9}}</ref>. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig [[Ferdinand Foch]] gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr.
 
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar [[31 Gorffennaf]] 1917.<ref>{{dyf llyfr|teitl=The German Army at Passchendaele|olaf=Sheldon|cyntaf=Jack|blwyddyn=2007|cyhoeddwr=Pen and Sword Books|lleoliad=Barnsley|isbn=1-84415-564-1|tud=xiv}}</ref> Roedd yr ymgyrch wedi'i chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd [[Oostende]] a [[Zeebrugge]], oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.
Llinell 13:
 
==Hedd Wyn==
Rhan o Frwydr Passchendaele oedd '''Brwydr Cefn Pilckem''', lle lladdwyd [[Hedd Wyn]] ar [[31 Gorffennaf]], diwrnod cynta'r frwydr. Roedd Simon Jones o Lanuwchllyn yn yr un frwydr, ac mewn sgwrs a recordiwyd gan [[AngueddfaAmgueddfa Werin Cymru]] ym 1975, mae'n disgrifio sut y gwelodd Hedd Wyn yn syrthio:
<blockquote>"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele. O’n ni’n cychwyn dros Canal Bank yn Ypres ac mi lladdwyd o ar hanner Pilckem… Mi gweles o'n syrthio. Ac mi allaf ddeud mai ''nosecap shell'' yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. O’ch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de".<ref>{{cite web|url=https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2007-04-25/Bardd-Cymraeg-yn-cwympo-yn-Flanders/ |title=Bardd Cymraeg yn cwympo yn Fflandrys |publisher=amgueddfacymru.ac.uk |date=2007-04-25 |accessdate=2017-08-28}}</ref></blockquote>