Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Penrhyn y Crimea"

Ychwanegwyd 39 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Gorynys yng ngogledd y [[Môr Du]] yw'r '''Crimea''' neu '''Krym''' ([[Rwsieg]] ''Крым'' / ''Krym'', [[Wcraineg]] ''Крим'' / ''Krym'', [[Tatareg Crimea]] ''Qırım''). Fe'i gweinyddir fel gweriniaeth hunanlywodraethol o fel [[Wcráin]]. Enw swyddogol y weriniaeth honno yw '''Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea''' (Wcraineg ''Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea ''Qırım Muhtar Cumhuriyeti'').
 
Amgylchynir y Crimea bron yn gyfangwbl gan y Môr Du a rhan o [[Môr Azov|Fôr Azov]], gyda [[Isthmws Perekop]] yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa [[Gora Roman-Kosh]], yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel [[Mynyddoedd Crimea]]. Y prif ddinasoedd yw [[Feodosia]], [[Kerch]], [[Sevastopol]], [[Yalta]], [[Yevpatoria]] a [[Simferopol]], y brifddinas.
 
Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn [[Rwsiaid]], gyda niferoedd sylweddol o [[Wcrainiaid]] (24%) a [[Tatariaid Crimea]] (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001) hefyd, er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol yw'r Wcraineg, er bod y Rwsieg yn cael ei defnyddio yn eang ar gyfer materion y llywodraeth hunanlywodraethol.