Alushta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Y Tŵr Genoaidd, Alushta Dinas fechan yn y Crimea, Wcráin, sy'n ganolfan gwyliau glan môr yw '''Alushta''' (Wcreineg, Алу...
 
B trwsio dolen
Llinell 1:
[[Delwedd:AlushtaFortress.jpeg|200px|bawd|Y Tŵr Genoaidd, Alushta]]
Dinas fechan yn y [[Crimea]], [[Wcráin]], sy'n ganolfan gwyliau glan môr yw '''Alushta''' ([[Wcreineg]], Алушта; [[Rwseg]], Алушта; [[Tatareg Crimea]], ''Aluşta''). Fe'i sefylwyd yn y [[6ed ganrif]] gan yr [[Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerodr Bysantaidd]] [[Justinianus I|Justinian]]. Mae'n gorwedd ar lan y [[Môr Du]] ar y ffordd arfordirol rhwng [[Gurzuf]] a [[Sudak]]. Mae ffordd dros [[Bwlch Angarskyi|Fwlch Angarskyi]], ym [[Mynyddoedd Crimea]], yn ei chysylltu â [[Simferopol]], prifddinas Gweriniaeth Ymreolaethol Crimea.
 
Mae'r ardal yn nodedig am ei thirwedd greigiog. Ceir olion gwaith amddiffynnol Bysantaidd a chaer [[Genoa]]idd o'r 15fed ganrif yno. Dan y Bysantaidd adnabyddid y dref fel Aluston (Αλουστον), a Lusta oedd yr enw yng nghyfnod rheolaeth Genoa. Cyflwynodd y bardd [[Adam Mickiewicz]] ddau o'u [[soned]]au am y Crimea i Alushta.