Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
baneri
Llinell 102:
 
== Hanes ==
[[Delwedd:Meddwl a'r Dychymyg Cymreig, Y Cerddi Alltudiaeth - Thema yn Llenyddiaethau Québec, Catalunya a Chymru (llyfr).jpg|bawd|chwith|130px|Astudiaeth feirniadol o dair gwlad - Québec, Catalunya a Chymru gan Paul W. Birt; 1997]]
Yn [[1164]], casglodd [[Alfonso II, brenin Aragón]] deyrnas [[Aragón]], Tywysogaeth Catalwnia, [[Mallorca|Terynas Mallorca]], [[Teyrnas Valencia]], [[Sicilia|Teyrnas Sicilia]], [[Corsica]] a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn [[1289]] yn y ''Corts de Monçó'' enwyd y tiriogaethau fel ''Corona d'Aragó i de Catalunya'', a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i ''Corona d'Aragó'', [[Coron Aragón]].
 
===Baneri===
Y faner swyddogol yw'r [[La Senyera]], a chaiff ei ddefnyddio hefyd ar faner [[Aragón]], yr [[Ynysoedd Balearig]], [[Valencia]] a dinas [[Alghero]] yn [[Sardinia]]; fe'i ceir hefyd ar arfbais y [[Pyrénées-Orientales]], [[Provence-Alpes-Côte d'Azur]], baner [[Languedoc-Roussillon|Roussillon]], [[Capcir]], Vallespir, [[Provence]] yn Ffrainc ac ar arfbais [[Andorra]]. Ar un cyfnod, deuai'r mannau hyn i gyd o dan reolaeth [[Coron Aragón]] a Iarll Barcelona a heddiw mae'r Gatalaneg wedi goroesi yma a gelwir hwy yn ''Països Catalans'' (gwledydd Catalan).
 
Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y [[Mwriaid]] dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, [[Guifré el Pilós]], ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel ''Els Quatre Dits de Sang'', y pedwar byd gwaedlyd.
 
Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner [[Cwba]] a {Puerto Rico]], a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.
 
<gallery>
Flag of Catalonia.svg|[[La Senyera]], baner swyddogol y wlad ers [[11g]] neu [[12g]]
Estelada blava.svg|Yr Estelada - baner cefnogwyr dros Annibyniaeth Catalwnia
Estelada roja.svg|Yr Estelada a godir gan weriniaethwyr, ac aelodau asgell-chwith y mudiad dros Annibyniaeth
Camp Nou during El Clasico October 2012.jpg|Cefnogwyr F.C. Barcelona yn ffurfio'r Senyera o streipiau coch a melyn yn [[Camp Nou]] yn Hydref 2012, rhwng FC Barcelona a Real Madrid
Estelada blaugrana.png|Baner a ddefnyddir gan gefnogwyr [[F.C. Barcelona]] sydd o blaid Annibyniaeth.
 
 
</gallery>
 
==Annibyniaeth==
Llinell 145 ⟶ 161:
 
Er bod gan y wlad ei [[Tîm pêl-droed Catalwnia|thîm pêl-droed cenedlaethol]], nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig yng ngolwg [[UEFA]] na [[FIFA]]. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill statws swyddogol i'r tîm, a thrwy hynny i'r wlad.
[[Delwedd:Meddwl a'r Dychymyg Cymreig, Y Cerddi Alltudiaeth - Thema yn Llenyddiaethau Québec, Catalunya a Chymru (llyfr).jpg|bawd|chwith|130px|Astudiaeth feirniadol o dair gwlad - Québec, Catalunya a Chymru gan Paul W. Birt; 1997]]
 
== Gweler hefyd ==