Edgar Phillips: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion; ehangu
B del
Llinell 1:
[[Delwedd:Memorial to Edgar Phillips at Rehoboth - geograph.org.uk - 948914.jpg|bawd|Cofeb Trefin yn Rehoboth, Rhoslanog, [[Sir Benfro]].]]
Bardd Cymraeg oedd '''Edgar Phillips''', enw barddol '''Trefin''' ([[8 Hydref]] [[1889]] - [[30 Awst]] [[1962]]). Bu'n [[Archdderwydd]] o 1960 hyd ei farwolaeth.
 
==Magwraeth Seisnig==
Ganed ef ym mhentref [[Trefin]] yn [[Sir Benfro]], yn unig blentyn William Bateman a Martha (g. Davies) Phillips ond symudodd y teulu i [[Caerdydd|Gaerdydd]] pan oedd yn unarddeg oed. Morwr oedd y tad ond wedi ymddeol o'r môr gweithiodd fel pobydd ym [[Mhorth-cawlPorthcawl|Mhorthcawl]]. Collodd Trefîn ei fam yn 1898 wedi iddi dreulio 5 mlynedd yn ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin; mabwysiadwyd ef gan Mari, chwaer ei dad, a oedd yn wraig i John Martin, gwneuthurwr hwyliau, a hen forwr. Saesneg oedd iaith y cartref a Saesneg ond cadwodd ei Gymraeg -diolch i'r Ysgol Sul. Ceisiodd ddianc i'r môr pan ddeallodd fod y teulu am ei brentisio'n deiliwr. Pan ailbriododd ei dad symudodd y teulu i Gaerdydd ac aeth y bachgen yn 11 oed i ysgol Sloper Road.
 
Cymerodd Syr John Rowland ei athro Cymraeg, ddiddordeb ynddo a threfnu iddo gael benthyg ''Cymru'' a chyfnodolion Cymraeg eraill. Ond roedd ei dad a'i lysfam yn ceisio'i annog oddi wrth bethau Cymraeg.