Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 15:
Daeth newid mawr i fyd crefyddol a gwleidyddol Cymru gyda dyfodiad y [[Normaniaid]] i'r wlad yn y [[1070]]au. Roedd cael rheolaeth ar yr eglwys Gymreig yn bwysig iddynt er mwyn tynhau eu gafael ar y wlad. Ad-drefnwyd y drefn eglwysig Gymreig a sefydlwyd trefn esgobaethol yn seiliedig ar y patrwm ar y cyfandir gyda phedair esgobaeth, sef [[Esgobaeth Tyddewi]], [[Esgobaeth Bangor]], [[Esgobaeth Llanelwy]] ac [[Esgobaeth Llandaf|Esgobaeth Morgannwg]]. Dyma'r cyfnod pan greuwyd y [[plwyf]]i cyntaf hefyd. Pwysleiswyd awdurdod y [[Pab]] yn [[Rhufain]] fel pennaeth anffaeledig yr Eglwys. Ceisiai [[archesgob Caergaint|archesgobion Caergaint]], gyda chefnogaeth brenin Lloegr, gael yr esgobion Cymreig i dyngu llw o ffyddlondeb bersonol iddo a fyddai'n tanseilio annibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Normaniaid oedd llawer o'r esgobion yn y cyfnod yma ond ceir Cymry yn eu plith yn ogystal. Ond bu adwaith a daeth cefnogaeth i'r syniad fod Cymru'n uned arbennig yn yr eglwys o gyfeiriad annisgwyl, gyda'r esgob Normanaidd [[Bernard, Esgob Tyddewi|Bernard]] ac, yn nes ymlaen, [[Gerallt Gymro]], yn ceisio cael y Pab i gydnabod fod Cymru'n archesgobaeth gydag [[Esgob Tyddewi]] yn brimad ([[archesgob]]) arni. Ond methiant fu hynny yn y pen draw a thynwyd yr eglwys yng Nghymru i mewn i drefn newydd gydag [[archesgob Caergaint]] yn bennaeth arni.
 
[[Delwedd:PorthystradfflurDSCN4297-strata-florida-arch.jpgJPG|120px|bawd|chwith|Porth [[Ystrad Fflur]]]]
Am weddill yr Oesoedd Canol roedd Cymru'n wlad drwyadl [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Gatholigaidd]]. Roedd addoli'r seintiau brodorol yn parhau i fod yr elfen amlycaf ym mywyd crefyddol y genedl, ond cynyddodd pwsigrwydd addoliad y [[Mair Forwyn|Santes Fair]] a [[Mair Fadlen]], ynghyd â'r apostolion fel [[Sant Pedr|Pedr]] a [[Sant Paul|Pawl]]. Byddai pobl o bob gradd yn mynd ar [[pererindod|bererindod]] os medrant, gydag [[Ynys Enlli]], [[Tyddewi]] a [[Treffynnon]] yn ganolfannau pwysig. Roedd creiriau'r saint yn ganolbwynt addoliad hefyd, fel "Ceffyl" [[Derfel]] yn [[Llandderfel]], a thyrrai nifer i weld [[Crog]] [[Aberhonddu]] yng Nghymru a'r Grog yng [[Caer|Nghaer]], a fu'n destun sawl cerdd gan y [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd]].