Ceri (cwmwd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
map; cat
Llinell 1:
[[Delwedd:Powys Cantrefi.jpg|200px|bawd|Map braslun o gantrefi Powys]]
[[Cwmwd]] oedd yn rhan o [[Rhwng Gwy a Hafren]] oedd '''Ceri'''. Canolfan weinyddol y cantrefcwmwd oedd [[Llanfihangel yng Ngheri]], pentref Ceri ym [[Powys|Mhowys]] yn awr. Gerllaw pentref Ceri mae gweddillion [[castell mwnt a beili]], a adeiladwyd tua [[1130]] ac a oedd yn brif ganolfan y cwmwd. Mae ffiniau [[Ceri (cymuned)|cymuned Ceri]] yn cyfateb yn fras i ffiniau'r cwmwd. Ceir cyfeiriad at Ceri ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogion, chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'', lle mae [[Gwydion]] wedi dwyn moch [[Pryderi]] yn aros dros nos rhwng Ceri ac [[Arwystli]].
 
Yn [[1228]] bu ymladd yma rhwng [[Llywelyn Fawr]] a [[Hubert de Burgh]], oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr. Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin a byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Llywelyn. Cododd Llywelyn yr arian trwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid [[Gwilym Brewys]], oedd wedi ei gymeryd yn garcharor yn yr ymladd.
 
 
{{eginyn hanes Cymru}}
[[Categori:Cymydau Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
[[Categori:Powys]]