Edward H. Dafis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B Fformatio caneuon/albymau
Llinell 4:
Rhwng Ionawr [[1972]] ac Awst [[1973]], ysgrifennodd Hefin Elis golofn yn ''[[Y Faner]]'' o dan y ffugenw 'Edward H. Dafis', a phan aeth ati i greu grŵp arloesol Gymraeg, rhoddwyd yr enw hwn iddo. Prif bwrpas y band oedd symud cerddoriaeth Gymraeg oddi wrth y synau gwerinaidd a swynol (oedd yn gyffredin iawn yng ngherddoriaeth Gymraeg y cyfnod) tuag at agwedd mwy swnllyd a chynhyrfus.
 
Llwyddodd y grŵp i gyfansoddi nifer o ganeuon sydd yn boblogaidd iawn hyd heddiw, fel ''"Breuddwyd Roc a Rôl''", ''"Smo fi ishe mynd''", ''"Ysbryd y Nos''",'' "'Sneb yn Becso Dam''", ''"Cân mewn Ofer''" a ''"Dewch at eich Gilydd''".
 
==Gyrfa==
Ffurfiwyd Edward H Dafis gan Dewi Morris o Abertawe, gynt o'r [[Y Tebot Piws|Tebot Piws]], a Hefin Elis o Bort Talbot, cyn-aelod o'r Datguddiad, Y Nhw a'r Chwyldro. Ymunodd John Griffiths o Bont-rhyd-y-fen ar y gitâr bas, ac wedyn Charli Britton o Gaerdydd, drymiwr sesiwn gyda [[Hergest (band)|Hergest]] a nifer o grwpiau eraill.
 
Rhyddhawyd un EP iar Sain ym 1973 ac ymddangosodd un trac, "Can Y Stiwdants" ar yr albwm fyw ''Tafodau Tân''.
 
Erbyn yr albwm ''Hen Ffordd Gymreig O Fyw'' (Sain, 1974) roedd Cleif Harpwood (gynt o [[Ac Eraill]]) wedi ymuno fel prif leisydd. Dyma albwm cyntaf Edward H, ac roedd yn garreg filltir yn hanes canu roc a phop Cymraeg.
 
Roedd ''Ffordd Newydd Eingl -Americanaidd Grêt O Fyw'' (Sain, 1975) braidd yn siomedig, ac roedd e'n amlwg bod y grŵp wedi colli ffordd rhywsut, ond roedd 'na uchafbwyntiau, fel cân Dewi Morris "Lisa Pant Ddu".
 
Mae mwy o hanes y ferch ifanc o gefn gwlad yn cael ei adrodd ar '''Sneb Yn Becso Dam'' (Sain, 1976). Hon yw record hir gorau'r band heb os nac oni bai. Chwalodd y grŵp ar ôl cyngerdd ffarwel yng Nghorwen ar yr 11eg o Fedi 1976.
 
Atgyfodwyd y band ym 1978 mewn cyngerdd yn Nhalybont, a rhyddhawyd ''Yn Erbyn Y Ffactore'' (Sain, 1979) sy'n cynnwys y bytholwyrdd "Ysbryd Y Nos".
 
Erbyn ''Plant Y Fflam'' (Sain, 1980) roedd sŵn y band wedi troi braidd yn slic ac yn saff. Penderfynwyd chwalu ar ôl perfformio yn Llanbadarn Roc ar yr 11ef11eg o Orffennaf 1981.
 
Cyhoeddwyd casgliad o waith y grŵp yn 2005, ''Edward H Mewn Bocs''.
 
==Aelodau==
Llinell 30:
*Drymiau - [[Charli Britton]]
 
==RecordiauDisgyddiaeth==
{{Prif|Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Edward H. Dafis}}
; Sengl ac EP
*Hen Ffordd Gymreig o Fyw ([[1974]]) gyda [[Geraint Griffiths]]
* ''Ffarwel I Langyfelach Lon'' ‎([[1973]], 7", EP, SAIN 38E)
*Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw ([[1975]])
* ''SnebUffern ynAr BecsoY DamDdaear'' ([[19761978]], gyda7", [[GeraintSengl, Griffiths]]SAIN 67S)
; Albymau
*Yn Erbyn y Ffactore ([[1979]])
* ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' ([[1974]], SAIN 1016M) gyda [[Geraint Griffiths]]
*Plant Y Fflam ([[1980]])
* ''Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw'' ([[1975]], SAIN 1034M-B)
* '''Sneb yn Becso Dam'' ([[1976]], SAIN 1053M) gyda [[Geraint Griffiths]]
* ''Yn Erbyn y Ffactore'' ([[1979]], SAIN 1144M)
* ''Plant Y Fflam'' ([[1980]], SAIN 1196M)
; Casgliadau
* ''Edward H Dafis - Breuddwyd Roc a Rôl (1974-1980)'' (2001, SAIN SCD8027, 20 cân)
* ''Edward H Dafis - Mewn Bocs'' (2005, SAIN SCD2428, 6xCD)
 
==Dolenni allanol==
Llinell 44 ⟶ 51:
 
[[Categori:Bandiau Cymreig]]
[[Categori:Bandiau Cymraeg]]
[[Categori:Sefydliadau 1973]]
[[Categori:Datgysylltiadau 1981]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]