Cyfeiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun |
Gwenwynwyn |
||
Llinell 11:
Ychydig a wyddys am hanes cynnar y cwmwd. Yn [[1149]] rhoddodd [[Madog ap Maredudd]], Tywysog Powys, Gyfeiliog i'r tywysog ifanc [[Owain Cyfeiliog|Owain ap Gruffudd ap Maredudd]] a'i frawd Meurig. Cyn hynny bu ym meddiant [[Gruffudd ap Maredudd]], ei dad. Daethpwyd i arfer galw Owain yn [[Owain Cyfeiliog]], efallai i wahaniaethu rhyngddo ag [[Owain Gwynedd]]. Cofir Owain Cyfeiliog heddiw am ei gerddi, yn enwedig ''Hirlas Owain''.
Yn ôl ''[[Brut y Tywysogion]]'', cipiwyd Cyfeiliog yn [[1153]] a'i dal am gyfnod gan yr [[Arglwydd Rhys]] o Ddeheubarth. Yn [[1162]] cipiodd Owain Gwynedd gastell Tafolwern. Hawliai'r Arglwydd Rhys y cwmwd eto yn nes ymlaen. Pan ymranodd Powys yn ddwy
Mae perthynas cwmwd [[Mawddwy]] a Chyfeiliog yn amwys. Roedd y cwmwd hwnnw yn deyrnas fechan annibynnol yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac wedyn yn gwmwd ym Mhowys. Cyfeirir ati weithiau fel petai'n rhan o Gyfeiliog.
|