Dai Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehangu ac ail-drefnu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{gweler hefyd|David Jones}}
[[Canwr]], [[ffermwr]], a [[cyflwynydd teledu|chyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|radio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[18 Hydref]] [[1943]]),<ref name="llyfr1"/> sy'n byw yn [[Llanilar]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]]. Fe'i adwaenir hefyd fel '''Dai Llanilar'''. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm Berthlwyd sydd erbyn ynhyn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.
 
Cyhoeddodd ei [[hunangofiant]], ''[[Fi Dai Sy' 'Ma]]'' ym 1997 ac ail gyfrol ''[[Tra Bo Dai]]'' yn 2016.<ref name="llyfr1">{{dyf llyfr| url=http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9780860741428/| isbn=9780860741428| teitl=Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma| cyhoeddwr=Gwasg Gwynedd| awdur=Lyn Ebenezer.| blwyddyn=1997}}</ref>
Llinell 6:
==Bywyd cynnar ac addysg==
 
Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar eieu fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.
 
Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol, byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth gan yn y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog.