Preslav: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[delweddDelwedd:Karta Veliki Preslav location in Bulgaria.png|bawd|right|150px|Lleoliad Preslav ym Mwlgaria]]
 
Dinas hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain [[Bwlgaria]] yw '''Preslav''' ([[Bwlgareg]] ''Преслав''). Prifddinas Teyrnas Gyntaf Bwlgaria oedd hi o [[893]] tan tua [[972]]. Lleolir adfeilion y ddinas 20km i'r de-orllewin o'r brifddinas ranbarthol [[Shumen]].
 
[[delweddDelwedd:Veliki Preslav walls Enev.jpg|bawd|chwith|250px|Adfeilion y ddinas a'r mur caerog (wedi'i ailadeiladu)]]
Datblygwyd y ddinas gyntaf fel safle milwrol â phlas caerog gan Khan [[Omurtag]] yn hanner cyntaf y nawfed ganrif. Symudwyd y brifddinas yno yn [[893]] gan Tsar [[Simeon I, Tsar Bwlgaria|Simeon Fawr]] ar ôl gwrthryfel paganaidd yn y brifddinas flaenorol [[Pliska]], 3km i ffwrdd. Ffynnodd am gyfnod fel canolfan diwylliant llenyddol Slafonaidd, fel [[Ohrid]] yn y gorllewin. Cafodd y ddinas ei hysbeilio a'i llosgi i lawr gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdwr [[Ioan I Tzimiskes]] yn [[971]]. Parhaodd ei diwygiad ar ôl hynny tan ymosodiad dan ddwylo'r [[Tatariaid]] yn [[1270]], pryd gadawodd y rhelyw o'r trigolion y ddinas. Heddiw mae tref fechan newydd (Veliki Preslav) yn sefyll 2km i'r gogledd o'r ddinas hanesyddol. Mae ganddi boblogaeth o dua 10,000 o drigolion.