Dai Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar eu fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.
 
Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol, byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth gan yn y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog.<ref name="llyfr1"/>
 
==Gyrfa==