Ieuan Trefor II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Maelor (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
ehangu; categoriau
Llinell 1:
Roedd '''John Trefor''' '''Siôn Trefor''' neu '''John Trevaur''' (bu farw [[1410]]) yn [[Esgob Llanelwy]] rhwng [[1394]] a [[1408]] ac awdur [[Cymraeg Canol]] a [[Lladin]].
 
Ei enw gwreiddiol oedd Ieuan; yn ddiweddarach cymerodd y ffurf Seisnig John a mabwysiadu'r cyfenw Trefor. Mae'r ffaith iddo ddewis y cyfenw hwnnw yn awgrymu mai [[Trefor]], ger [[Llangollen]], oedd ei fan geni.

Yr oedd ei frawd Adda yn briod â chwaer [[Owain Glyndŵr]], ac apwyntiodd Owain ef yn lysgennad at frenin [[Ffrainc]].
 
Yn [[1408]] penodwyd ef yn esgob Cill Rìmhinn ([[Saesneg]]: ''St Andrews'') yn [[Yr Alban]]. Ni allodd gymeryd meddiant o'r esgobaeth, gan fod dau [[Pab|Bab]] yn gwrthwynebu ei gilydd yn y cyfnod yma, un yn [[Rhufain]] a'r llall yn [[Avignon]]. Apwyntiwyd John Trefor i [[esgobaeth Llanelwy]] gan y Pab yn Rhufain, ond [[Pab Avignon]] yr oedd yr Alban yn ei gydnabod. Bu farw yn Rhufain ar [[10 Ebrill]] 1410.
 
Credir gan rai ysgolheigion mai John Trefor yw awdur un o weithiau safonol y cyfnod yn disgrifio [[herodraeth|arfau]], sef y ''Tractatus de Armis'' ('Traethawd ynglŷn ag Arfau'). Mae'n bosibl mai ef ei hun a'i gyfieithodd i'r Gymraeg dan y teitl ''Llyfr Arveu''. Llyfr arall a briodolir iddo yw ''[[Buchedd Sant Martin]]''; ceir testun a gopïwyd gan y bardd ac achyddwr [[Gutun Owain]] yn [[1488]] neu [[1489]]. Ar ei ddiwedd ceir y nodyn:
:John Trevor a droes y vvuchedd honn o'r Llading yn Gymraec...
 
Ond erys cryn ansicrwydd am awduraeth y gweithiau hyn, a dydi pob ysgolhaig ddim yn derbyn eu bod yn waith yr Esgob John Trefor.
 
===Llyfryddiaeth===
*Evan John Jones (gol.), ''Buchedd Sant Martin'' (Caerdydd, 1945)
 
 
[[Categori:Esgobion Llanelwy|Trefor II, John]]
[[Categori:MarwolaethauLlenorion 1410Cymraeg|Trefor II, John]]
[[Categori:Rhyddiaith Cymraeg Canol|Trefor II, John]]
[[Categori:Llenorion Lladin|Trefor II, John]]
[[Categori:Llên Ladin Cymru|Trefor II, John]]
[[Categori:Pobl o Glwyd|Trefor II, John]]
[[Categori:Genedigaethau'r 14eg ganrif|Trefor II, John]]
[[Categori:Marwolaethau 1410|Trefor II, John]]