Eisteddfod Caerfyrddin 1451: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Eisteddfod enwog a gynhaliwyd yn nhref Caerfyrddin tua'r flwyddyn 1450 neu 1451 oedd '''Eisteddfod Caerfyrddin'''. Mae'n adnabyddus fel yr achlysur pan ad-drefnwyd me...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Er ei bod yn eithaf tebygol fod eisteddfodau eraill wedi eu cynnal yn yr Oesoedd Canol, dyma'r ail yn unig y gwyddys amdani cyn eisteddfodau [[Caerwys]] yn yr [[16eg ganrif]] (y gyntaf oedd [[Eisteddfod Aberteifi, 1176]]). Cynhaliwyd yr eisteddfod yng [[Castell Caerfyrddin|Nghastell Caerfyrddin]] dan nawdd [[Gruffudd ap Nicolas]], arglwydd [[Dinefwr]], un o ddisgynyddion tywysogion [[Deheubarth]]. Nid oes sicrwydd am y dyddiad, ac mae'n bosibl iddi gael ei chynnal rhai blynyddoedd yn ddiweddarach na'r dyddiad traddodiadol ar ôl i'r castell gael ei adnewyddu yn 1452-55. Daeth beirdd a cherddorion yno o bob rhan o Gymru. Y beirniad oedd Gruffudd ap Nicolas ei hun. Enillodd y bardd Dafydd ab Edmwnd gadair arian.
 
Tynnodd Dafydd ab Edmwnd ddau fesur allan o ganon yr hen [[canu caeth|fesurau caeth]] a rhoi ddau fesur eithriadol astrus o'i ben a'i bastwn ei hun i mewn. Ni wyddys os cawasantcawsant eu defnyddio yn yr eisteddfod honno, ond yn [[Eisteddfod Caerwys 1523|Eisteddfod Caerwys yn 1523]] gosodwyd y rheol fod rhaid i fardd fedru canu ar y [[Pedwar Mesur ar Hugain]]. Er mor ymarferolanymarferol oedd rhai o'r mesurau, bwriad y gyfundrefn newydd oedd ceisio cadw bwlch rhwng y beirdd llys a'r beirdd llai a elwir yn [[Glêr]] (beirdd crwydrol tebyg i [[minstrel|finstreliaid]]).
 
===Llyfryddiaeth===